Dileuwch gynllun y Llwybr Coch

Stop the Red Route

Photomontage:  Fox ©Mike Snelle, Badger © Andrew Parkinson 2020Vision, Wood © NWWT Jonathan Hulson

Ymgyrch

Helpwch ni i Achub Coed a Dolydd Leadbrook – unwaith eto!

Ymatebwch i’r ymgynghoriad, dywedwch ‘NA’ wrth y Llwybr Coch

Yn 2023, cafodd ffordd newydd arfaethedig o’r enw’r ‘Llwybr Coch’ ei chanslo ar ôl i’ch help amhrisiadwy chi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhelliad gan y Panel Adolygu Ffyrdd, oedd yn ei hystyried yn anghynaliadwy gan ddatgan nad oedd modd ei chyfiawnhau a'i bod yn niweidiol. Dyma pam ein bod ni wedi ein synnu a'n siomi o'i gweld yn ailymddangos mewn cynllun drafft newydd. Mae drafft o Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn agored i ymgynghoriad tan 14eg Ebrill 2025 ac mae’r awduron yn awyddus i glywed eich barn arno. Mae angen i chi ddweud wrthyn nhw bod y Llwybr Coch yn ddewis anghywir o hyd.

Byddai’r prosiect priffordd 13km hwn yng Ngogledd Ddwyrain Cymru (Coridor yr A494 / A55 / Sir y Fflint) yn dinistrio coetiroedd hynafol, dolydd blodau gwyllt a gwrychoedd canrifoedd oed, a hefyd yn peryglu rhywogaethau fel dyfrgwn, ystlumod, tylluanod gwynion a moch daear. Rhaid gwarchod y cynefinoedd bywyd gwyllt cwbl unigryw yma. Mae byd natur yn hanfodol i’n hiechyd a’n lles ni ac mae cenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu ar y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud heddiw. Mae'r Llwybr Coch yn brosiect anghywir yn y lle anghywir.

Ewch ati i e-weithredu heddiw drwy anfon eich ymateb i'r ymgynghoriad. Dydyn ni ddim eisiau'r Llwybr Coch!

Cymryd rhan

Mwy am y Llwybr Coch

Dyma oedd y ffordd cynllun briffordd newydd fwyaf yng Nghymru gyfan efo'r potensial o fod y fwyaf difrodol.

Byddai’r ffordd ddeuol 13 km yn torri drwy goetir hynafol Leadbrook gan gynnwys cynefin coetir gwlyb prin iawn. Coetiroedd hynafol yw’r rhai sydd heb eu clirio ers canrifoedd, wedi’u dosbarthu gan Lywodraeth Cymru fel “cynefin cwbl unigryw”. Byddai dolydd blodau gwyllt a gwrychoedd canrifoedd oed yn cael eu dinistrio hefyd, yn ogystal â chartrefi rhywogaethau prin, fel dyfrgwn, moch daear, tylluanod gwynion ac ystlumod.

Yn anhygoel, mae wedi dod i’r amlwg y byddai disgwyl i gonsortiwm o chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru sydd wedi rhoi’r Llwybr Coch yn ôl yn eu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft ar gyfer Gogledd Cymru dalu am y Llwybr Coch, er mai dim ond un o’r chwe awdurdod lleol fyddai’r prosiect £507m yn ei effeithio.

Llwybr y Llwybr Coch: (yn agor PDF o wefan Llywodraeth Cymru)

Mae’r gost a amcangyfrifir wedi mynd allan o reolaeth eisoes - amcangyfrifodd diweddariad cyllideb diwethaf y Llywodraeth yn 2019 bod cost y Llwybr Coch yn £300m. Pe bai'r Llwybr Coch yn mynd yn ei flaen nawr, byddai'r gost yn gyfanswm syfrdanol o £507m, sef cynnydd o £207m neu 70%! Mae’n debyg bod y symiau enfawr hyn hyd yn oed yn amcangyfrif rhy isel, oherwydd, er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys y gost rheoli traffig enfawr o gadw’r ffordd bresennol yn agored i draffig dros gyfnod y rhaglen adeiladu o 3 blynedd, a fydd yn tarfu llawer iawn. Amcangyfrifir y gallai’r ffordd ddeuol 13km hon gostio tua £1770 i bob cartref yng Ngogledd Cymru!

Byddai’r Llwybr Coch angen swm a amcangyfrifir sy’n cyfateb i 33% o holl gyllideb flynyddol gyfunol consortiwm Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru gan awdurdodau lleol sy’n cynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Bwrdeistref Sirol Conwy, Sir Ddinbych a Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gefnogi adeiladu’r prosiect sengl hwn yn Sir y Fflint!

Byddai cyfuniad o well trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogaeth ar gyfer teithio llesol, ynghyd â gwelliannau “ar-lein” i’r rhwydwaith priffyrdd presennol, a datrysiadau SMART (er enghraifft, cyngor traffig ac arwyddion amser real o bell) yn lleihau unrhyw dagfeydd yn yr ardal yn sylweddol iawn. Bydd newidiadau demograffig yng Ngogledd Cymru, y cynnydd dramatig mewn gweithio o gartref, a’r gostyngiadau mawr diweddar mewn twristiaeth mewn ceir yng Ngogledd Cymru yn lleihau ymhellach yr angen am ffordd ddeuol y Llwybr Coch.

Hefyd, mae'r cynnig hwn am adolygiad yn mynd yn groes i gylch gorchwyl y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, sydd i fod i ganolbwyntio ar: wneud y defnydd gorau o'r seilwaith trafnidiaeth presennol; gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, ac; annog pobl i gerdded, beicio neu fynd ar ryw fath o olwynion yn amlach; yn ogystal â bod yn gyson â Llwybr Newydd, sef Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (ond nid yw’n gyson).

Byddai: Mae’r amcangyfrifon o’r allyriadau carbon ychwanegol a fyddai’n deillio o adeiladu’r ffordd ddeuol newydd, ei chynnal a’i chadw, a’r cynnydd mewn traffig y byddai’n ei ddenu yn tua 263,000 o dunelli o garbon yn ystod ei hoes. Byddai’n rhaid i chi hedfan rhwng Llundain ac Efrog Newydd fwy na 300,000 o weithiau i ryddhau’r swm yma o garbon i’r atmosffer – sef bron i hanner yr holl siwrneiau sy’n cael eu gwneud mewn blwyddyn rhwng Llundain ac Efrog Newydd – i fod yn hafal i effaith y 13km arfaethedig hwn o ffordd ddeuol.

Otter

Otter_Luke Massey2020Vision

Dyfrgwn yn Coedlan Hynafol Leadbrook

Fe fydd fferm choedlan taid Felix Hodgkinson ei ddinistrio'n llwyr gan y briffordd, ac roedd Felix wedi ffilmio ddyfrgi ar y Lead Brook sydd yn llifo trwy'r goedlan.  Mae’r anifail arbennig ac hardd yma yn adnabyddus o fod yn fregus i farwolaethau ffyrdd ac fe fydd yn amharu ar eu cynefin os fydd yr ffordd yn cael ei hadeiladu.  Mae hyn yn dangos y beryglon i fywyd gwyllt y gall y cynllun o adeiladu’r ffordd newydd yn ddod.

Bywyd gwyllt dan fygythiad

Mae coedydd a dolydd Leadbrook yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys dyfrgwn, tylluanod ac ystlumod.