Pan syrthiodd y glaw cyntaf, fe ddeffrodd y ddaear
Lle’r oedd afonydd yn crwydro, gallai bywyd ffynnu!
Archwilio dŵr croyw
Rydyn ni’n gwybod y gall prosiectau cadwraeth ar raddfa’r dirwedd gael effaith ar lawr gwlad ond, er mwyn cyflawni newid gwirioneddol a pharhaol, rhaid cydnabod pobl a’u cymunedau fel y prif sbardun yn adferiad byd natur.
Mae prosiect Gofod Glas yn archwilio’n greadigol berthynas pobl â dŵr croyw yn nalgylch afon Conwy. Fel prosiect datblygu mae'n ceisio darganfod pam fod hyn yn bwysig i bobl ac yn archwilio sut gallwn weithio tuag at ddŵr croyw glân ac iach yn y dyfodol.
Rydyn ni wedi derbyn cymorth ariannol gan Sefydliad Esmée Fairbairn i archwilio a thrafod thema dŵr croyw gyda chwilfrydedd. Rydyn ni’n ceisio cydweithio â chymunedau mewn ffyrdd gwahanol a diddorol, gan fod yn agored i drafodaethau, yn ymatebol i geisiadau ac â diddordeb mewn syniadau.
Cymryd rhan
Mae Gofod Glas eisiau archwilio beth mae dŵr yn ei olygu i chi. Sut rydych chi'n rhyngweithio ag ef a chwestiynau fel: Beth yw eich perthynas chi â dŵr? Beth yw eich dealltwriaeth? Beth yw eich persbectif? Gyda’n gilydd gallwn archwilio ble i ddod o hyd i’r atebion, a beth allent fod.
Ymunwch â chymuned o ddiddordeb sy'n dod i'r amlwg drwy gofrestru ar gyfer rhestr bostio Gofod Glas.
Beth yw Gofod Glas Conwy?
Mae Gofod Glas Conwy yn bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (Rhif Elusen: 230772), Dyffryn Dyfodol (Ffiwsar) (Cwmni Budd Cymunedol - Rhif Cofrestru’r Cwmni 11302487) a Chyfoeth Naturiol Cymru (Corff a Noddir gan y Llywodraeth)