Cynnwys rhodd yn eich ewyllys

Grandfather holding his grandson

Image © iStock

EIN CEFNOGI NI

Cynnwys rhodd yn eich ewyllys

 

 

Edrychwch ar ein gwasanaethau ysgrifennu Ewyllys am ddim

Helpwch amddiffyn y bywyd gwyllt a llefydd gwyllt lleol i genedlaethau’r dyfodol drwy adael rhodd yn eich Ewyllys

Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, mae cofio am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eich ewyllys yn gallu helpu i gadw eich atgofion am ein bywyd gwyllt yn fyw am genedlaethau i ddod.  Mae arnom ni angen y gefnogaeth yma er mwyn sicrhau bod plant Gogledd Cymru’n gallu parhau i fwynhau eu bywyd gwyllt a’u llefydd gwyllt wrth iddyn nhw dyfu i fyny a chael eu teuluoedd eu hunain.

Mae pob rhodd ym mhob Ewyllys, boed yn fach neu’n fawr, yn gwneud gwahaniaeth.

Gwasanaethau ysgrifennu ewyllys - am ddim

Defnyddiwch eich cyfreithiwr eich hyn

Cysylltu â ni - yn gyfrinachol

  Ein haddewidion ynghylch gwaddol

Tardis hidden in grass

dante-candal-6W5XcEsOMzA-unsplash.

DIGWYDDIADAU

Arglwyddi Amser Yfory

Ymunwch â ni yng Ngwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen ar Ebrill 17eg wrth i ni greu peiriant amser - o fath! Byddwn yn claddu capsiwl amser yn llawn addewidion, gobeithion a breuddwydion amgylcheddol ar gyfer bywyd gwyllt a llefydd gwyllt Gogledd Cymru. Yn llawn syniadau i newid y blaned, efallai ei fod yn fwy ar y tu mewn nag y mae'n edrych ar y tu allan!

Manylion y digwyddiad Arglwyddi Amser Yfory

Os na allwch chi fod yno yn bersonol, fe allwch chi fod yn rhan o hanes yr un fath - cliciwch ar y botwm isod i adael neges ar gyfer chi eich hun yn y dyfodol.

Cyflwynwch eich gobeithion a’ch breuddwydion amgylcheddol ar-lein