Mwy, gwell, cysylltiedig
Dydi gwarchodfeydd natur yn unig ddim yn ddigon i gynnal bywyd gwyllt gwerthfawr ar draws Gogledd Cymru. Er mwyn galluogi bywyd gwyllt i ffynnu mae angen i ni greu mwy o ofod sy’n cael ei reoli'n well ac sydd wedi'i gysylltu'n dda, gyda chyfleoedd i bobl gysylltu â byd natur. Yn ogystal â chyflawni prosiectau yn y dirwedd ehangach rydyn ni hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau rheoli datblygiadau i helpu i sicrhau nad yw datblygiadau adeiladu yn bygwth bioamrywiaeth yn sylweddol. Rydyn ni hefyd yn eiriol dros bolisïau’r llywodraeth sy’n cefnogi adferiad byd natur, ac yn gwneud gwaith rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar rywogaethau – yn lleol ac yn genedlaethol
Gwaith tirwedd ehangach yng Ngogledd Cymru
Rydyn ni’n gweithio ar raddfa tirwedd, gyda thirddeiliaid, busnesau, sefydliadau ac unigolion, i greu, gwella a chysylltu cynefinoedd yng Ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnal pedair rhaglen ‘Tirweddau Byw’ fel rhan o’n strategaeth tirweddau ehangach. Edrychwch isod i gael gwybod mwy.
Dod â byd natur yn ôl
O warchod briwlys y calch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i ailsefydlu afancod, ac o gefnogi gwenoliaid duon sy’n ymweld yn yr haf i fynd i’r afael â lledaeniad rhywogaethau estron ymledol, mae ein staff a’n gwirfoddolwyr ni’n gweithio’n galed i helpu i warchod ac adfer byd natur yn ein rhan ni o’r byd.