Shoresearch - arolygon rhynglanwol

Shoresearch survey

Shoresearch survey - North Wales Wildlife Trust

CADWRAETH BYWYD GWYLLT

Shoresearch - arolygon rhynglanwol

Helpwch i fonitro ein bywyd gwyllt morol

Yn weithredol ledled y DU, arolygon Shoresearch yw astudiaeth Gwyddoniaeth y Dinesydd yr Ymddiriedolaethau Natur o'r gofod hwnnw a ddatgelir bob dydd gan y llanw sy'n mynd allan.

Wedi’u sefydlu yng Nghaint yn 2003, mae'r arolygon wedi bod drwy gyfres o ddiweddariadau ac maent bellach yn cael eu defnyddio'n helaeth ledled y DU. Mae gwirfoddolwyr wedi'u hyfforddi i adnabod a chofnodi'r bywyd gwyllt ar lannau ledled y DU. Mae'r data sy’n cael eu casglu gan y prosiect hwn yn helpu arbenigwyr i fonitro ein bywyd môr bregus a deall effeithiau llygredd, newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau estron ymledol yn well.

Dod yn Wirfoddolwr Moroedd Byw

Recording species - North Wales Wildlife Trust

Recording species - North Wales Wildlife Trust

Beth mae Shoresearch Cymru yn ei gynnwys?

Datblygwyd arolygon Shoresearch yng Ngogledd Cymru i roi sylw i anghenion ein glannau lleol ochr yn ochr â Chyfoeth Naturiol Cymru. Gyda chyllid Llywodraeth Cymru, maent ar fin dod yn becyn rheolaidd sy'n helpu ein gwirfoddolwyr i fonitro ein glannau, gan ganolbwyntio'n benodol ar Ardaloedd Gwarchodaeth Forol a Rhywogaethau Ymledol Morol.

Mae'r arolygon wedi'u cynllunio i weddu i'r rhai a hoffai weithio gyda'i gilydd mewn grŵp neu, ar ôl cael eu hyfforddi, mynd allan gyda chyfaill ar y lan pan fyddant yn gallu gwneud hynny. Gall yr arolygon bara am sawl awr neu ddim ond ychydig dros hanner awr. Mae'n ffordd wych o archwilio'ch arfordir lleol, dysgu mwy am y bywyd gwyllt sydd i’w weld yno ac ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r cynefin pwysig yma.

It was really satisfying to go to the shore, put my head down and just hunt. Very straight-forward and easy to do, and the instructions that you gave were bang-on. Ideal for slotting in when I don’t always have time to go to a full/half day event.

- Paige Bentley ar ôl chwilio wedi'i Amseru am Rywogaethau

Mwy o wybodaeth

Dysgu mwy am y mathau o arolygon, yr hyfforddiant a'r ardaloedd y byddwn yn canolbwyntio arnynt i ddechrau.

Yr hyfforddiant

Cynhelir yr hyfforddiant fesul cam, gan helpu ein gwirfoddolwyr i symud o ddechreuwr i syrfëwr profiadol. Bydd hyn yn helpu i gynhyrchu data sy'n ddibynadwy ac y gellir eu defnyddio'n effeithiol at ddibenion Cadwraeth.

Ein hardaloedd gwaith cychwynnol yw:

1. Pen Llŷn

2. Ynys Môn

3. Sir Conwy  

Ar ôl y cyflwyniad sylfaenol cychwynnol bydd cyfres o becynnau gwybodaeth ar-lein gyda chwisiau i weithio drwyddynt. I gyd-fynd â hyn bydd amser ar y lan yn cynnal arolygon yn yr arolygon misol rheolaidd ar draws tair ardal ranbarthol yng Ngogledd Cymru yn ogystal ag amser yn annibynnol i gwblhau arolygon ychwanegol.

Mae'r hyfforddiant hwn wedi'i gynllunio i ddarparu'r wybodaeth ynghyd ag amser rhydd yn gwylio'r rhywogaethau rhynglanwol mewn bywyd go iawn, sy'n helpu i gadarnhau gwybodaeth. Yn ogystal, bydd cyfle i drafod gweld rhywogaethau gydag eraill gan gynnwys arweinwyr arolygon a syrfëwyr profiadol.

Bydd y gwaith yn y dyfodol yn cynnwys arolygon penodol gyda chwestiynau clir a gallant fod yn geisiadau untro neu dymhorol am help gyda’r gyfres reolaidd o safleoedd arolygu a rhestrau o rywogaethau.

Bydd yr adborth drwy gyfrwng adroddiadau a blogiau a bydd siawns i'r rhai sy'n ennill profiad helpu i hyfforddi eraill a chreu darnau hyrwyddo ar gyfer y prosiect.

Yr Arolygon

Arolwg Bioamrywiaeth Cwadrat

Mae Arolwg Bioamrywiaeth Cwadrat ar gyfer glannau swbstrad caled (creigiog, cerrig mân / gro mân, creigwely) ac mae'n cynnwys casglu digonedd o rywogaethau a data cynefinoedd ar hap, mewn ardal benodol o'r parth rhynglanwol, gan ddefnyddio cwadrat.

Chwilio wedi'i Amseru am Rywogaethau

Yn ystod yr arolwg hwn, byddwch yn chwilio am restr ddethol o rywogaethau ar draws ardal o draeth o fewn cyfnod penodol o amser i gynorthwyo gyda monitro eu dosbarthiad ledled y DU.

 

Arolwg Cerdded

Mae'r Arolwg Cerdded ar gyfer glannau swbstrad caled (creigiog, cerrig mân / gro mân, creigwely) ac mae'n cynnwys casglu gwybodaeth ansoddol am rywogaethau a geir o fewn ardal benodol o'r parth rhynglanwol.

Arolygon i ddod ………………….

 

Arolwg Bioamrywiaeth Creiddiwr Bocs     

 

Mae’r Arolwg Bioamrywiaeth Creiddiwr Bocs ar gyfer glannau gwaddod rhynglanwol (tywod, mwd, llifwaddod) ac mae'n cynnwys casglu digonedd o rywogaethau a data cynefinoedd ar hap, mewn ardal ddethol o'r parth rhynglanwol, gan ddefnyddio creiddiwr.

Tra rydych chi allan:

O dan ymbarél yr arolygon Shoresearch daw arolwg Beached! sy’n cofnodi drylliadau rhywogaethau ar y lan tra rydych chi allan yn yr awyr agored. Gellir cynnal yr arolwg yma fel rhan o Chwilio Wedi’i Amseru am Rywogaethau Shoresearch ar y draethlin a’r traeth ehangach a gall fod yn rhan o drip rheolaidd i lan y môr gyda'r teulu, gan gynnal arolygon bywyd gwyllt eraill ar y traeth fel arolygon adar neu ddim trip gyda’r ci. Mwy o wybodaeth am Beached! yma.

Blogiau Shoresearch

Edrychwch ar rai o uchafbwyntiau ein harolygon Shoresearch yn ddiweddar drwy ddarllen ein cyfres o flogiau misol.

Darllen blogiau Shoresearch

Ydych chi'n barod i ymuno â ni?

Ymunwch â ni fel gwirfoddolwr a byddwch yn derbyn llythyr e-newyddion gwirfoddoli gyda'r holl gyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd sydd ar gael fel dolenni ynddo.

Os hoffech chi roi cynnig arni i ddechrau, cadwch lygad am ddigwyddiadau rhoi cynnig arni. Gallwch gael gwybod mwy am weddill ein gwaith gwirfoddoli Moroedd Byw ac ati yma.

Mae croeso i chi gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth.

Beth am ddechrau dysgu nawr?

Mae ein gwefan yn ffordd wych o gyflwyno'ch hun i rai o'r rhywogaethau a welir yn gyffredin ar arfordir Gogledd Cymru. Mae pytiau blasus o wybodaeth ar gael hefyd. Rydyn ni'n meddwl, ar ôl ymchwilio i'n tudalennau cynefinoedd a rhywogaethau, y byddwch chi'n cael eich annog i ymuno â ni ar y lan i weld a allwch chi ddarganfod mwy a helpu'r rhywogaethau rhyfeddol yma i ffynnu unwaith yn rhagor.

Cynefinoedd Morol    Rhywogaethau Morol