Gwead cyfoethog o goetiroedd hynafol, dolydd blodau gwyllt ac afonydd hamddenol
Mae cynllun Tirwedd Fyw Alun a Chwiler yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd drwy gyfrwng Cronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect ‘Adfer Gwytnwch i Goetiroedd Cymru’ yw creu, cysylltu a gwella cynefinoedd yn nalgylchoedd Afon Alun ac Afon Chwiler, gyda ffocws penodol ar goetiroedd a gwella’r rheolaeth ar adnoddau dŵr yn y ddau ddalgylch. Mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth y Ddyfrdwy yng Nghymru a’i gefnogi gan bartneriaid sy’n cynnwys Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, Cyfoeth Naturiol Cymru a hefyd Cynghorau Sir y Fflint a Dinbych.
Mae’r cynllun yn hybu rheolaeth gynaliadwy ar dir ac yn gweithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir yn nalgylchoedd yr afonydd, yn enwedig y rhai sydd eisiau gwella cynaliadwyedd ar y fferm a chryfhau cadernid yr ecosystemau yn wyneb newid hinsawdd, yn ogystal â phlâu a chlefydau.
Mae Cronfa Dreftadaeth Cymru yn dosbarthu’r Gronfa Rhwydweithiau Natur ar ran Llywodraeth Cymru.
Amcanion y cynllun
- Gwella cynefinoedd a’u cysylltedd yn nalgylchoedd Afon Alun ac Afon Chwiler, gyda ffocws ar goetiroedd
- Gwella faint o ddŵr sydd yng nghymoedd Afon Alun ac Afon Chwiler a gwella ansawdd y dŵr hwnnw
- Dangos a hybu amrywiaeth eang o reolaeth gynaliadwy ar dir
- Darparu cyfleoedd i gymunedau lleol weld a dysgu am fywyd gwyllt unigryw yr ardal, gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli
- Datblygu perthnasoedd gwaith gydag amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid y prosiect
Cysylltu â ni
Jonathan Hulson, Rheolwr y Prosiect Coetiroedd ar gyfer Dŵr
Jonathan.Hulson@northwaleswildlifetrust.org.uk
07961698437
Ardal y cynllun
Cymryd rhan
Gwarchodfeydd natur yn y Dirwedd Fyw yma
Mae gennym ni lawer o warchodfeydd natur hardd i chi eu harchwilio yn y Dirwedd Fyw yma, edrychwch ar y tair uchaf yma...
Beth sydd i’w weld yma?
Mae digonedd o ddewis o ffawna a fflora yn yr ardal hardd yma yng Ngogledd Cymru – ewch allan i archwilio – rydyn ni’n argymell cadw llygad am ...