Pathew y cyll

Hazel dormouse

©Danny Green

Pathew y cyll

Mae pathew y cyll yn greadur anodd ei weld – nid yn unig mae’n dod allan yn y nos, ond hefyd dim ond mewn ychydig iawn o lefydd yn y DU mae i’w weld. Mae pathewod yn treulio llawer o’u hamser yn gaeafgysgu – ac yn enwog am chwyrnu!

Enw gwyddonol

Muscardinus avellanarius

Pryd i'w gweld

Ebrill – Hydref

Species information

Ystadegau

Hyd: 6-9 cm
Cynffon: 5.7-6.8 cm
Pwysau: 15-40 g
Yn byw ar gyfartaledd am: 5 mlynedd
Protected in the UK under the Wildlife and Countryside Act, 1981. Priority Species under the UK Post-2010 Biodiversity Framework. Listed as a European Protected Species under Annex IV of the European Habitats Directive.

Cynefinoedd

Ynghylch

Pur anaml mae rhywun yn gweld pathewod gan eu bod yn treulio’r rhan fwyaf o’r diwrnod yn cysgu! Yn y nos, maen nhw’n deffro, ac yn dringo’n uchel i’r coed wrth hela am fyrbryd blasu. Eu hoff fwyd yw cnau cyll, aeron a phryfed. Mae pathewod yn adeiladu nythod allan o laswellt a dail yn barod i’r fenyw roi genedigaeth i hyd at saith o rai bach. Yn yr hydref, mae pathewod yn dechrau chwilio am lecyn perffaith i aeafgysgu. Yn aml maen nhw’n dewis cysgu mewn dail neu foncyffion coed wrth fôn coeden neu o dan y ddaear er mwyn osgoi oerni’r gaeaf.

Sut i'w hadnabod

Mae gan bathew y cyll ffwr brown i sinsir, llygaid mawr duon a chynffon hir, fflwfflyd. Mae’n llawer llai na gwiwer.

Dosbarthiad

I’w weld yn bennaf yn ne Lloegr a Chymru.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae pathew y cyll, fel llawer o’n hanifeiliad bach eraill, yn gaeafgysgu drwy gydol misoedd y gaeaf er mwyn goroesi. Os yw bwyd yn brin y tu allan i’r tymor gaeafgysgu, mae’n arbed egni drwy ollwng tymheredd ei gorff a mynd i gyflwr 'cysgadrwydd'. A dweud y gwir, mae pathewod yn gallu treulio bron i dri chwarter y flwyddyn yn 'cysgu' ar ryw ffurf!