Pêl-droedwyr, Batman ac arwyr

Pêl-droedwyr, Batman ac arwyr

Marmalade hoverfly © Nick Upton/2020VISION

Dathlu pryfed hofran gyda’r arbenigwr pryfed Vicki Hird MCs FRES!

Ydych chi wedi meddwl erioed beth sydd gan bêl-droedwyr a Batman yn gyffredin gyda phryfed hofran? Wel, eu henw yw’r ateb. Mae pêl-droediwr a Batman yn enwau ar rywogaethau o bryfed hofran: mae gan un streipiau fel cit pêl-droed ac mae gan y llall symbol sydd yn union fel Batman.

Gyda thua 270 o rywogaethau o bryfed hofran yn y DU, rydych chi’n debygol o ddod ar draws amrywiaeth ryfeddol o liwiau a meintiau.

Er eu bod yn dynwared lliwiau rhybudd gwenyn meirch a gwenyn, ni fydd pryfed hofran yn ein niweidio ni gan nad oes ganddyn nhw bigyn.

Felly, mae dysgu'r gwahaniaeth yn bwysig, yn enwedig pan fydd pryf hofran sy’n dynwared cacynen feirch yn ymddangos - mae'n fawr, yn swnllyd ac yn felyn a du, ond yn gwbl ddiniwed. Nid yw cacynen feirch go iawn yn debygol o'ch brifo chi chwaith, oni bai ei bod dan straen.

Mae pryfed hofran yn mynd drwy bob cam o fywyd pryf - o ŵy i larfa corff meddal, i chwiler caled ac yn olaf, oedolyn adeiniog. Mae larfa pryfed hofran yn rhyfeddol o amrywiol. Mae rhai yn byw mewn dŵr, gan gynnwys y ‘cynrhon cynffon llygoden’ gyda’u henw priodol, sydd â phibell hir yn eu pen ôl fel snorcel i’w wthio allan uwchben wyneb y dŵr i anadlu aer i mewn. Mae eraill yn bwyta llawer o bryfed gleision. Os ydyn nhw’n byw mewn pren sy'n pydru neu'n sipian sudd o goed byw, mae pryfed hofran yn hynod hyblyg ac amrywiol.

Mae pryfed hofran yn bryfed peillio allweddol

Felly, pwy yw'r arwyr yn y stori yma? Y pryfed hofran!

Mae eu rôl ecolegol yn hanfodol. Mae pryfed hofran yn bryfed peillio allweddol yn ein gerddi a’n caeau ni, gan gefnogi tyfiant ffrwythau a llysiau – sy’n hanfodol i bêl-droedwyr iach ym mhob man. Ond mae pryfed hofran yn gwneud mwy na dim ond peillio.

Mae eu larfa nhw’n cyfrannu drwy ailgylchu sbwriel dail i bridd ffrwythlon ac, fel rhan o'r gadwyn fwyd, maen nhw’n bwydo llawer o anifeiliaid mwy mewn dŵr ac uwchben y ddaear. Maen nhw hefyd yn helpu i buro dŵr drwy hidlo llygredd a chadw trefn ar infertebrata sy'n bwyta planhigion, fel pryfed gleision.

Mae pryfed hofran yn eu llawn dwf ar y fwydlen hefyd ar gyfer bywyd gwyllt arall, o bryfed cop i adar. Drwy wylio gwybedog mannog dof fe welson ni bod rhai adar yn gallu gwahaniaethu hyd yn oed rhwng gwenyn a’r pryfed hofran sydd â phatrwm du a melyn tebyg. Wrth fwyta gwenyn, roedd y gwybedog yn rhwbio’r pigyn i ffwrdd i ddechrau cyn eu llyncu. Wrth fwyta pryfed hofran, doedd yr aderyn ddim yn trafferthu gyda hyn. 

Y bygythiadau sy'n wynebu pryfed hofran

Po fwyaf ydych chi’n sylwi ar bryfed hofran, y mwyaf cyfareddol ydyn nhw. Rydw i’n dyst i hynny, gyda lluniau di-ri ar fy ffôn clyfar - mae pryfed hofran, yn ffodus, yn tueddu i aros yn llonydd yn ddigon hir i gael tynnu eu lluniau, gan eu gwneud yn haws eu hadnabod na phryfed eraill.

Fodd bynnag, mae pryfed hofran yn wynebu bygythiadau sylweddol gan amaethu dwys, colli cynefinoedd, plaladdwyr niweidiol, llygredd dŵr, datblygiadau trefol a newid hinsawdd. Rhwng 1980 a 2020, fe fu gostyngiad o 44% mewn poblogaethau pryfed hofran mewn rhai ardaloedd, sy’n arwydd o duedd bryderus. Mae pryfed hofran y DU mewn perygl bellach.

Sut gallwch chi helpu pryfed hofran:

Ond dyma sut gallwch chi helpu: trawsnewid eich gardd yn noddfa gyda blodau amrywiol a phwll bach i gefnogi eu hanghenion nythu, bwydo a pharu. Gall bocs ffenest llawn blodau fod yn lloches hanfodol i'r pryfed peillio bach a hardd yma hyd yn oed.

Drwy ddod yn llysgennad pryfed hofran, rydych chi nid yn unig yn cyfrannu at eu cadwraeth ond hefyd yn lledaenu ymwybyddiaeth drwy rannu lluniau a ffeithiau am eu buddion. Felly, y tro nesaf fyddwch chi'n gweld pryf hofran, manteisiwch ar y cyfle i addysgu pobl eraill am yr arwyr tawel yma yn ein hecosystem ni. Gyda’n gilydd, awn ati i hyrwyddo achos pryfed hofran!

Gadewch i ni bencampwr pryfed hofran gyda'n gilydd!

Darganfod mwy am pryfed hofran

A bumblebee mimic hoverfly on a purple thistle flower. It's a fuzzy black and yellow hoverfly with a white tip to the abdomen, looking just like a bee. It's given away by its large eyes and short antennae

Volucella bombylans © Janet Packham