Ymweld â ‘Tad y Gaeaf’ y Nadolig yma (Bore)
Gwarchodfa Natur Aberduna,
Gwernymynydd, Maeshafn, Sir Ddinbych, CH7 5LD
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dewch i gyfarfod 'Tad y Gaeaf' yn ei groto awyr agored yng Ngwarchodfa Natur Aberduna. Bydd straeon tymhorol yn cael eu hadrodd, crefftau ar thema bywyd gwyllt i'w gwneud, a bydd pob plentyn yn derbyn anrheg fach. Mwynhewch lwybr bywyd gwyllt y gaeaf, diod cynnes a mins pei!
Rhowch gyfle i'ch rhai bach rannu eu dymuniadau Nadolig drwy ysgrifennu llythyr at ‘Dad y Gaeaf’ - ac wedyn ei ddanfon ato yn ei groto! Ymunwch yn hwyl yr ŵyl ar daith gerdded aeafol fer drwy ein gardd ni, lle byddwch yn dilyn llwybr i weld anifeiliaid yn eu cynefinoedd gaeafol rhyfeddol.
Gwisgwch yn gynnes, rhowch esgidiau cryf am eich traed a dewch â'ch ysbryd Nadoligaidd gyda chi! Dydyn ni ddim yn gallu addo eira, ond fe allwn ni sicrhau croeso cynnes, tymhorol gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Methu dod y tro yma? Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn y prynhawn yn lle’r un yn y bore.