Interniaethau Dyfodol Morol Gogledd Cymru x2

Interniaethau Dyfodol Morol Gogledd Cymru x2

Diwrnod cau:
Cyflog: £12.60 per hour
Math y cytundeb: Cyfnod penodol / Oriau gweithio: Llawn amser
Lleoliad:
North Wales Wildlife Trust - Bangor office, Llys Garth, Ffordd Garth, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn chwilio am ddau Intern Dyfodol Morol. Mae’r rhaglen Interniaeth Dyfodol Morol yn cynnig cyfle unigryw i ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn yr amgylchedd morol ddysgu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ar draws amrywiaeth o sectorau morol, gan helpu fel sail i lunio cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol.

Cyllidir y Rhaglen gan Stad y Goron ac mae’n cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a chaiff ei gweithredu mewn partneriaeth â Stad y Goron, M-SParc, Menter Môn a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae pob sefydliad partner yn darparu cyfleoedd i’r intern ddatblygu sgiliau yn y gwaith mewn meysydd arbenigol, gan gynnwys cyngor cadwraeth forol, pysgodfeydd cynaliadwy, datblygu ynni adnewyddadwy, polisi morol, ac ymgysylltu â chymunedau. Drwy’r rhaglen bydd yr intern yn cael cynnig profiad a golwg gytbwys ar yrfa yn yr amgylchedd morol a sut gall gwahanol sectorau gydweithio. Bydd yr intern yn cael cyfle i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yn canolbwyntio ar bwnc sy'n berthnasol i bob partner. Bydd gweithgareddau ychwanegol yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, creu deunyddiau allgymorth addysgol rhithwir a gwaith maes ecolegol.

Bydd yr interniaid llwyddiannus yn dilyn amserlen amrywiol a fydd yn caniatáu iddynt ddysgu ystod o sgiliau a chael profiadau amrywiol, gan gynnwys:

  • gweithio gydag amrywiaeth o dimau ar draws gwahanol sectorau
  •  ysgrifennu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
  • gweithio gyda chymunedau lleol i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol
  • cynnal arolygon
  •  y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn y gweithle
  • cyflwyno cyfweliadau a chyflwyniadau gyda'r cyfryngau
  • cymryd rhan mewn cyfarfodydd, hyfforddiant a gweminarau ar-lein.

Bydd y ddau intern yn cael y cyfle hefyd i ymgymryd â phrosiect ymchwil ar y cyd, gan edrych ar bwnc ymarferol sy'n berthnasol i bob sefydliad partner. Bydd hyn yn golygu gweithio gyda thimau gwahanol ar draws y sefydliadau partner.

Rydym yn chwilio am ddau intern a all adeiladu ar eu sgiliau a'u gwybodaeth bresennol i wneud y gorau o'r profiad unigryw yma. Dylai’r ymgeiswyr fod â dealltwriaeth dda o faterion morol cyfredol a rhywfaint o brofiad o weithio neu wirfoddoli yn y sector morol. Yn bwysicaf oll, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n angerddol ac yn frwdfrydig am yr amgylchedd morol ac sy'n barod i ddysgu, yn drefnus, yn llawn hunangymhelliant, ac yn gallu gweithio'n dda o fewn tîm, o bell ac wyneb yn wyneb.

Mae’n hanfodol bod gan yr ymgeiswyr llwyddiannus ddealltwriaeth o ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg, gyda’r gallu i weithio o fewn tîm dwyieithog ac yn ymrwymo i ddysgu’r iaith os yn ddysgwr.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi angerdd am natur, parch, ymddiriedaeth, uniondeb, arloesedd a arweinir gan dystiolaeth, brwdfrydedd a chryfder mewn amrywiaeth. Rydym yn angerddol wrth hyrwyddo ein nodau ac yn gyflogwr cynhwysol. Rydym am i’n pobl fod mor amrywiol â byd natur, felly rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan bobl sy’n cael eu tangynrychioli yn ein sector, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau. Rydym wedi ymrwymo i greu sefydliad sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol.

Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfweliad i unrhyw un ag anabledd sy’n bodloni’r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y swydd. Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau arnoch i wneud ein proses recriwtio yn fwy hygyrch.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad Efallai y bydd y rôl hon yn amodol ar wiriad DBS.

Sut i wneud cais

Mae Disgrifiad Swydd llawn ynghyd â'r Ffurflen Gais am Swydd a Thabl Lefel y Gymraeg i'w gweld isod.
Lawrlwythwch a chwblhewch y Ffurflen Gais am Swydd i marinefutures@cumbriawildlifetrust.org.uk

Sylwch na fydd CVs yn cael eu derbyn ac ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner Dydd Dydd Llun 11fed o Ebrill