Diolch i ymdrechion anhygoel tîm Dŵr Cymru / Welsh Water, a’r Rheolwr Ardal, Nick Kite, yn arbennig, mae pâr o weilch y pysgod wedi nythu ar lwyfan sydd wedi’i adeiladu’n arbennig yn y llyn – prin 250m o’r lan.
Wrth ysgrifennu hyn, rydyn ni wedi cael cadarnhad bod y pâr â’r enwau bachog Blue24 a HR7 wedi llwyddo i ddeor eu hwyau – mae cyw wedi’i weld! Er ein bod ni wedi amau hynny ers peth amser, doedd dim posib bod yn gwbl siŵr – fe ddaeth Nick i ddeall nad yw camera wedi’i leoli’n ofalus yn ddigon clyfar i ben ôl gwalch y pysgod yn eistedd arno ac yn plygu’r erial drosglwyddo...
Dyma’r gweilch y pysgod cyntaf i fagu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ers o leiaf 400 o flynyddoedd – stori gadwraeth lwyddiannus iawn.
Eisiau gweld drosoch chi eich hun?
Mae posib gweld golygfeydd rhesymol o weilch y pysgod o lan y llyn ger clwb hwylio Llyn Brenig (GR: SH 967 551 – tua 1.1km i ffwrdd) neu o Gors Maen Llwyd ei hun (yr olygfa orau o’r hen ffordd tua SH 973 564 – tua 350m). Parciwch yn ddoeth a dewch ag esgidiau priodol gyda chi, a chofiwch barchu’r warchodfa natur – mae’n lle arbennig i bob math o fywyd gwyllt! Efallai y gwelwch chi ein staff ni wrth law ger y clwb hwylio i arwain y gwylio – fe fyddwn ni yno i helpu pan fydd hynny’n bosib dros fisoedd yr haf.