Mae angen rhoi terfyn ar unwaith ar werthiant mawn
Mae mawn sy’n cael ei ddefnyddio yn ein compost yn cael ei gloddio o lefydd gwyllt, gan niweidio rhai o’r mawndiroedd olaf sydd ar ôl yn y DU a thramor. Mae’r broses hon hefyd yn rhyddhau carbon i’r atmosffer, gan gyflymu newid yn yr hinsawdd.
Ddeng mlynedd yn ôl, gosododd Llywodraeth y DU darged gwirfoddol i’r sector garddwriaeth roi’r gorau i werthu compost mawn i arddwyr erbyn 2020. Rydyn ni wedi bod yn pwyso am waharddiad ar ei ddefnydd ers peth amser ac, o ddiwedd 2024 ymlaen, bydd compost mawn sy’n cael ei werthu mewn bagiau ar gyfer defnydd gardd yn cael ei wahardd yng Nghymru a Lloegr.
Mae ein llyfryn newydd ni, Garddio gwyrddach: Perffeithio garddio di-fawn, yn cynnwys mwy o wybodaeth am fawndiroedd gwerthfawr, a sut i brynu neu wneud eich compost heb fawn eich hun ac wedyn bydd eich planhigion yn ffynnu yn yr amgylchedd yma sy’n gyfeillgar i fyd natur.
Lawrlwythwch ein canllaw AM DDIM i fod yn ddi-fawn
Mae mawndiroedd yn gynefinoedd bywyd gwyllt allweddol ac mae’n gwbl hanfodol eu bod yn aros yn eu lle er mwyn ein helpu ni i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Gall y Llywodraeth sicrhau bod y storfeydd carbon pwysig hyn yn gweithredu fel y’u bwriadwyd drwy wahardd gwerthu mawn yn awr.Prif Weithredwr, Yr Ymddiriedolaethau Natur