Sadwrn Arolygu

A man holds a shark eggcase, and an ID guide, matching the shape and appearance to the picture. On the beach behind another person sits in the sand doing the same thing to identify a different eggcase.

Eggcase hunt Internationals Go Green Porth Neigwl Apr2023. ©NWWT

Sadwrn Arolygu

Lleoliad:
Traeth Nefyn, Pwllheli
Gwnewch i’ch amser chi ar y lan gyfrif gyda chyflwyniad i bob math o arolygon gwyddoniaeth y dinesydd y gallwch chi eu cwblhau gyda ni neu ar eich pen eich hun.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Tu allan i Fecws Islwyn wrth y traeth (backers.personal.myths; LL53 6ED).
View on What3Words

Dyddiad

Time
10:00am - 1:00pm
A static map of Sadwrn Arolygu

Ynglŷn â'r digwyddiad

Rydyn ni'n dod â’r Sadwrn Arolygu yn ôl!!

Os ydych chi allan ar draethau gyda chŵn, teulu neu ar eich pen eich hun hyd yn oed, beth am gofnodi beth sydd wedi'i olchi i’r lan? Os ydych chi wedi gweld rhywbeth mewn pwll creigiog ac eisiau gwybod beth ydi o, neu ddim ond eisiau esgus i fentro allan i’r awyr agored yn rheolaidd i gofnodi ein rhywogaethau morol anhygoel ni, dyma’r peth i chi! Dim ond i bawb sy’n 16+ oed mae'r hyfforddiant yma ar gael.

Gan ddibynnu ar ba draeth rydyn ni arno, byddwch yn cael eich cyflwyno i sut i adnabod a ble i gofnodi rhywogaethau’r draethlin (gan gynnwys wyau siarcod), sbwriel y traeth (gan gynnwys peledi plastig neu nurdles) a rhywogaethau’r glannau creigiog rhynglanwol.

Dewch draw i ddysgu mwy am yr arolygon Gwyddoniaeth y Dinesydd amrywiol y gallwch chi eu cynnal gyda ni neu ar eich pen eich hun.

Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.

Bwcio

Pris / rhodd

Anogir rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid Cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Mae bysiau rheolaidd o neu drwy Bwllheli i Nefyn sy’n stopio 5 munud ar droed o'r man cyfarfod. Mae toiledau ar y ffordd i lawr i faes parcio'r traeth ac mae caffi ar lan y môr. Mae'r tir yn draeth tywodlyd rydych chi’n ei gyrraedd i lawr llithrfa goncrit.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd ac amodau gwlyb a hallt. Byddai'n syniad da dod â diod cynnes gyda chi.

Nodwch union fanylion y man cyfarfod a rhif ffôn symudol y trefnydd.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Gall y maes parcio am ddim wrth y traeth fod yn brysur.
image/svg+xmli

Facilities

Toiledau
Caffi / lluniaeth

Cysylltwch â ni