![A grey heron standing on the stony margin of a river](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2018-01/Grey%20heron%20%282%29%20credit%20Neil%20Aldridge.jpg?h=860fe8e1&itok=nCSx01ut)
Grey heron © Neil Aldridge
Crëyr glas
Enw gwyddonol: Ardea cinerea
Chwiliwch am yr adar tal, gydag edrychiad cynhanes yma, yn sefyll yn dal fel delwau ar lan pyllau a llynnoedd, yn meddwl am eu pryd bwyd nesaf.
Species information
Ystadegau
Hyd: 94 cmLled yr adenydd: 1.8 m
Pwysau: 1.5 kg
Oes ar gyfartaledd: 5 mlynedd
Statws cadwraethol
Cyffredin. Wedi’i gategoreiddio yn y DU fel Gwyrdd o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).
Pryd i'w gweld
Ionawr - RhagfyrYnghylch
Mae’r crëyr glas i’w weld yn aml yn sefyll yn llonydd fel delw ar ei goesau hir a thenau mewn dŵr bas mewn pyllau a llynnoedd, yn aros yn amyneddgar i’w bryd bwyd nesaf nofio heibio. Mae’r adar tal yma’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar eu pen eu hunain yn bwydo yn bennaf ar bysgod, ond gall ambell dwrch daear blasus fod at eu dant weithiau! Pan mae’n teimlo’n ddiog iawn, bydd y crëyr glas yn ymweld â gerddi a phyllau am fyrbryd cyflym a hawdd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am yr adar anhygoel yma wrth iddyn nhw hedfan; gyda’u hadenydd sy’n ysgwyd yn araf a’u coesau hir yn ymestyn allan y tu ôl iddyn nhw, does dim posib eu methu!Sut i'w hadnabod
Mae’n hawdd adnabod y crëyr glas – aderyn cefn llwyd gyda choesau hir, gwddw hir, gwyn, pig melyn llachar a streipen ddu ar y llygaid sy’n parhau fel plu hir, llipa i lawr y gwddw. Mae’n hedfan gyda’i goesau hir yn ymestyn allan, ond ei wddw wedi’i dynnu i mewn.Dosbarthiad
I’w weld mewn trefi a chefn gwlad, ar gamlesi, pyllau, llynnoedd ac afonydd ledled y DU.Cynefinoedd
Roeddech chi yn gwybod?
Mae crehyrod glas yn nythu mewn poblogaeth o’r enw ‘crehyrfa’, yn rhan uchaf y coed fel rheol. Yma, maen nhw’n creu nythod mawr diolwg allan o frigau ac yn dodwy 3 i 4 ŵy. Bydd y cywion yn gadael y nyth ar ôl ryw fis a hanner.Sut y gall bobl helpu
The Wildlife Trusts manage many wetland nature reserves for the benefit of the wildlife they support. You can help by supporting your local Trust and becoming a member; you'll find out about exciting wildlife news, events on your doorstep and volunteering opportunities, and will be helping local wildlife along the way.Gwyliwch
Tom Hibbert