Plast Off! Glanhau Traeth 2025
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Pam ddim cychwyn y flwyddyn newydd hefo gweithred bositif i’r blaned a’n arfordir delfrydol leol.
Bydd ein 8fed sesiwn Plast Off! blynyddol i lanhau traeth ym Mhorth Tyn Tywyn ar Ynys Môn (sydd ychydig ar hyd yr arfordir o ble rydyn ni wedi cynnal digwyddiadau Plast Off! blaenorol).
Ym maes parcio Porth Tyn Tywyn, fe welwch chi leoliad Plast Off! Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gyda staff a'r gwirfoddolwyr ifanc sy'n helpu i drefnu'r digwyddiad eleni (ac maen nhw'n gobeithio gweld y nifer mwyaf erioed yn codi allan, a mwy o sbwriel na'r llynedd yn cael ei gasglu - oedd tua 500kg).
Yn ein lleoliad ni yn y maes parcio, byddwch yn gallu:
- Casglu offer glanhau traeth
- Archwilio darganfyddiadau diddorol y draethlin
- Dysgu am y gwahanol blastigau sydd ar y traeth (gan gynnwys peledi plastig a’n peiriant peledi)
- Dysgu am forwellt gan ein Hyrwyddwyr Achub y Môr
- Dod i wybod am ein Cynnig Aelodaeth Hanner Pris ym mis Ionawr
- Casglu eich tystysgrif am gymryd rhan!
Amserlen
Bydd sesiwn briffio grŵp mawr (a llun grŵp hefyd) yn fuan ar ôl 10:00, ac wedyn casglu sbwriel tan tua 13:00 pan fydd angen dychwelyd yr holl sbwriel i'n lleoliad ni yn barod ar gyfer y pwyso mawr (a llun grŵp gyda'n casgliad ni o sbwriel ar y diwedd wrth gwrs). Ond i'r rhai sy'n bwriadu dod am gyfnod byrrach, peidiwch â phoeni, fe fydd staff a gwirfoddolwyr ar gael i'ch croesawu chi ar ôl y prif sesiwn briffio hefyd.
Parcio
Parcio am ddim ym Porth Tyn Tywyn i unrhyw un sydd yn mynychu’r digwyddiad rhwng 10:00 a 14:00. Casglwch eich tocyn parcio gan aelod o staff YNGC ar y diwrnod (diolch i Stad Bodorgan am eu caniatâd ar gyfer hyn).
Pethau eraill i'w gwybod
Dewch â'ch menig eich hun os oes gennych chi rai, gan na fydd gennym ni ddigon i'w benthyca i bawb. Bydd digon o offer casglu sbwriel a bagiau bin yn cael eu darparu.
Bydd toiledau ar gael a, gobeithio, bydd lluniaeth ar gael i’w brynu gan werthwr lleol (felly dewch â chwpan y mae posib ei ailddefnyddio ac ychydig o arian!).
Bydd trefnydd y digwyddiad a rhai o’r staff a’r gwirfoddolwyr eraill yn siarad Cymraeg, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.