Bydd llond gwlad o bethau i’w gweld a’u gwneud ar y diwrnod, gan gynnwys teithiau tywys ar y safle, canllawiau natur a gweithgareddau i blant, archwilio pyllau gyda Mike Dilger
a gweithgareddau ‘Labordy Awyr Agored’. Bydd lluniaeth gan gynhyrchwyr lleol ar gael i’w brynu. Hefyd gallwch gymryd rhan yn bio-blitz Chwarel Minera sy’n cael ei gydlynu gan Cofnod (Canolfan Cofnodion Biolegol Gogledd Cymru) ac efallai y byddwch chi’n darganfod rhywogaeth newydd i ychwanegu at ein rhestr gynyddol ar gyfer y safle!
Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu a threfnu, prynodd yr Ymddiriedolaeth Natur Chwarel Minera gan Tarmac yn haf 2017 ac mae wedi treulio’r misoedd diwethaf yn gwneud y safle’n ddiogel ac yn hygyrch i’r cyhoedd. Roedd y chwarel ar gau i’r cyhoedd cyn hyn, ar wahân i fynediad ar hyd un llwybr troed cyhoeddus, ond nawr bydd ar agor i bobl ei mwynhau’n rhydd, lle mae’n ddiogel gwneud hynny.