Am y tro cyntaf erioed, ychydig wythnosau yn ôl, fe osododd swyddogion modrwyo trwyddedig “fflagiau” arbennig ar fwy na chant o gywion y môr-wenoliaid Pigddu. Erbyn 15 Gorffennaf, roedd y rhai hynaf eisoes yn gadael eu safleoedd nythu: gwelwyd un yn fuan iawn yn Nhrwyn Rhos, Bae Colwyn, a’r diwrnod canlynol, gwelwyd pump arall yn Formby yn Sir Gaerhirfryn.
Modrwyo môr-wenoliaid
Draw yng Nghemlyn, gyda mis Gorffennaf yn tynnu at ei derfyn, mae’r môr-wenoliaid ifanc yn dechau mudo – ac eleni fe allwn ni ddechrau eu dilyn nhw!
Mae’r wardeiniaid eleni – Mark, Ruth a Matilda – yn amcangyfrif bod mwy na 1,000 o barau o Fôr-wenoliaid Pigddu wedi magu. Mae’n anodd bod yn fanwl gywir wrth amcangyfrif faint o gywion sydd wedi hedfan y nyth ond, drwy waith arsylwi manwl, cawn ffigur o ryw 800 ac nid oedd ysglyfaethwyr yn ymddangos fel problem fawr. Cemlyn yw’r unig boblogaeth o hyd o Fôr-wenoliaid Pigddu yng Nghymru, ac un o’r poblogaethau pwysicaf yn y DU.