Wrth i ni fynd i’r wasg, mae dyfodol gorsaf pŵer niwclear arfaethedig Wylfa ar Ynys Môn yn ansicr. Ar 17 Ionawr, cyhoeddodd Pŵer Niwclear Horizon y bydd yn gohirio ei raglen datblygu niwclear yn y DU, yn dilyn penderfyniad a wnaed gan ei riant-gwmni, Hitachi. Am nawr, o leiaf, mae hwn yn newyddion da i’r môr-wenoliaid sy’n dychwelyd bob blwyddyn i fagu yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn: llecyn rydym wedi’i gadw’n ddiogel ar eu cyfer ers mwy na 45 o flynyddoedd.
Daeth y newyddion hanner ffordd drwy’r ymchwiliad a fyddai wedi rhoi caniatâd datblygu i fwrw ymlaen. Fel rhan o’r ymchwiliad (y mae ei ddyfodol yn ansicr nawr hefyd), cyflwynodd ein Hymgynghorydd Cynllunio Bioamrywiaeth, Teresa Hughes, dystiolaeth dros gyfnod o dridiau i’r Arolygiaeth Gynllunio ar effeithiau Wylfa Newydd ar Warchodfa Natur Cemlyn, tir gwlyb gwerthfawr Tre’r Gof gerllaw a chynefinoedd bywyd gwyllt eraill. Dywedodd: “Gwrandawodd yr arolygwyr yn ofalus iawn ar ein holl safbwyntiau ni am effeithiau negyddol posib y cynllun ar y môr-wenoliaid a’r bywyd gwyllt. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r RSPB, i ddylanwadu ar y broses hon dros gyfnod o 3 blynedd, a dyma benllanw’r holl waith yma”.
Mae ein hymateb ni i’r bygythiad hwn wedi dangos gwaith tîm gwych. Cafodd Teresa gefnogaeth gan aelodau sydd â gwybodaeth arbenigol, yn enwedig Dr Rod Jones a Dr Ivor Rees, ac ymddiriedolwr a ddarparodd lety am ddim yn ystod yr ymchwiliad. Rydym yn ddyledus hefyd i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, a greodd Gronfa Frwydro Ymddiriedolaethau Natur Cymru. Defnyddiwyd y gronfa hon gennym ni i gael cyllid ar gyfer y gwaith hwn. Yn olaf, ond nid y lleiaf yn sicr, rydym wedi elwa o gefnogaeth ac anogaeth bargyfreithiwr pro bono a chyngor gan Ymddiriedolaethau Natur eraill – diolch yn fawr, bawb.