Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Rydyn ni'n dod â’r Sadwrn Arolygu yn ôl!!
Os ydych chi allan ar draethau gyda chŵn, teulu neu ar eich pen eich hun hyd yn oed, beth am gofnodi beth sydd wedi'i olchi i’r lan? Os ydych chi wedi gweld rhywbeth mewn pwll creigiog ac eisiau gwybod beth ydi o, neu ddim ond eisiau esgus i fentro allan i’r awyr agored yn rheolaidd i gofnodi ein rhywogaethau morol anhygoel ni, dyma’r peth i chi! Dim ond i bawb sy’n 16+ oed mae'r hyfforddiant yma ar gael.
Gan ddibynnu ar ba draeth rydyn ni arno, byddwch yn cael eich cyflwyno i sut i adnabod a ble i gofnodi rhywogaethau’r draethlin (gan gynnwys wyau siarcod), sbwriel y traeth (gan gynnwys peledi plastig neu nurdles) a rhywogaethau’r glannau creigiog rhynglanwol.
Dewch draw i ddysgu mwy am yr arolygon Gwyddoniaeth y Dinesydd amrywiol y gallwch chi eu cynnal gyda ni neu ar eich pen eich hun.
Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.