Mae'n amser rhoi terfyn ar ddefnyddio mawn mewn garddwriaeth
Am ganrifoedd y gred oedd nad oedd mawndiroedd o unrhyw werth oni bai eu bod nhw’n cael eu draenio neu dynnu ohonyn nhw. Heddiw, rydyn ni’n gwybod nad ydi hyn yn wir – felly pam mae 80% o fawndiroedd y DU yn dal i ddirywio? Mae echdynnu mawn ar gyfer garddio a thyfu’n cyfrannu'n uniongyrchol at ddirywiad ein mawndiroedd ni. Mae hyn yn cael effaith wedyn ar yr argyfyngau natur a hinsawdd rhyng-gysylltiedig.
Mae'n hen bryd gwneud cynnydd gyda’r mater yma. Cyflwynwyd targedau i roi’r gorau i ddefnyddio mawn yn raddol am y tro cyntaf yn 2011. Ar ôl ychydig o gynnydd, ddegawd yn ddiweddarach, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n gwahardd gwerthu compost mawn mewn bagiau erbyn 2024. Fodd bynnag, nid oes deddfwriaeth yn ei lle i gyflawni hyn ar hyn o bryd. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gweithio ochr yn ochr â Defra i weithredu gwaharddiad yng Nghymru. Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymgynghori ar y mater yma ac wedi ymrwymo hefyd i waharddiad ar werthu mawn garddwriaethol. Yng Ngogledd Iwerddon, mae cynigion i ddileu gwerthiant compost mawn yn raddol erbyn 2025 wedi’u gollwng yn gyfan gwbl ac nid oes dyddiad wedi’i bennu eto i wahardd cynhyrchion garddio sy’n gysylltiedig â mawn.
Rhaid cael mwy o uchelgais i roi terfyn ar y defnydd o fawn yn sector garddwriaeth amatur a phroffesiynol y DU. Mae adwerthwyr mawr wedi dangos ei fod yn bosibl, ar ôl cynhyrchu planhigion gwely blodau heb eu tyfu mewn mawn ar raddfa fasnachol yn llwyddiannus. Mae ymchwil hefyd wedi dangos y gall planhigion tŷ cigysol hyd yn oed, sy'n tarddu o fawnogydd, gael eu tyfu heb fod angen mawn.
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr i warchod mawndiroedd ers y 1990au ac maen nhw’n arwain ar brosiectau adfer mawndiroedd ledled y DU. Hyd yma, mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi adfer gwerth mwy na 120,000 o gaeau pêl droed o fawndiroedd yn Lloegr yn unig.
Yma yng Ngogledd Cymru mae ein gwaith ni i wella ac adfer mawndiroedd yn cynnwys caffael tir a rheoli cynefinoedd yn nifer o’n gwarchodfeydd natur ni, yn bennaf Cors Goch, Cors y Sarnau, Cors y Wlad (Bryn Ifan) Blaenyweirglodd a Chors Bodgynydd. Ar Ynys Môn, cartref yr ail ffendir mwyaf yn y DU, mae ein prosiect partneriaeth ni, Corsydd Calon Môn, yn gweithio gyda ffermwyr, perchnogion tir, grwpiau treftadaeth, ysgolion a chymunedau lleol i sicrhau dyfodol y dirwedd fregus yma.
Mawn Cudd
Mae llawer o bobl yn ymwybodol bellach bod newid i gompost heb fawn yn ffordd hawdd o warchod mawndiroedd. Fodd bynnag, oeddech chi'n gwybod bod mawn hefyd i'w gael yn llechu mewn mannau eraill?
Mae hyn yn cynnwys:
- Planhigion tŷ mewn potiau
- Hambyrddau o blanhigion gwely blodau
- A rhywfaint o'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta!
Ni fydd unrhyw un sy'n hoff o fywyd gwyllt eisiau prynu cynnyrch sy'n cynnwys mawn cudd yn ddiarwybod. Defnyddiwch ein hadnoddau am ddim i ddysgu mwy, a lledaenu'r gair.
Beth allwch chi ei wneud?
Helpwch ni i godi ymwybyddiaeth o ‘fawn cudd’ a gadael i eraill wybod sut i’w osgoi.
1. Lawrlwythwch a rhannwch ein graffeg cyfryngau cymdeithasol am enghreifftiau o ble gall mawn cudd fod yn llechu a rhai o ganlyniadau defnyddio mawn. Defnyddiwch yr hashnod #lMawnCudd - mae angen i bawb wybod ble mae mawn cudd!
2. Cofrestrwch i fod yn arolygydd mawn a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf yn ein hymgais ni i ddarganfod mawn cudd.
3. Llofnodwch ein llythyr agored sy'n galw am labeli cliriach ar gynhyrchion sy'n cynnwys mawn ac yn gofyn am ymrwymiad i dynnu mawn o gadwyni cyflenwi.