Gwirfoddoli cadwraeth

Image of volunteers with reserves officer on nature reserve

Dilys Thompson

Cymryd rhan

Gwirfoddoli cadwraeth

Gweithredwch yn ymarferol dros fywyd gwyllt

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein helpu ni i warchod bywyd gwyllt ar draws Gogledd Cymru ac mae gennym ni lawer o gyfleoedd i chi gymryd rhan. Felly beth am ymuno â’n tîm ni o fwy nag 800 o wirfoddolwyr gweithgar – fe allwch chi wneud byd o wahaniaeth, dysgu sgiliau newydd a dod yn rhan o gymuned frwdfrydig o bobl debyg i chi.

Dod yn wirfoddolwr

Image of volunteer working on nature reserve

Gwaith ymarferol ar ein gwarchodfeydd natur ni

Darganfod mwy
Volunteers in pairs, with quadrat grids on a rocky seashore. They are searching through the seaweeds and recording species on clipboards. Behind them the sea is calm in a large curved bay, with a sandy beach opposite.

Shoresearch surveyors Nefyn October 2023 © Dawn Thomas NWWT

Monitro a chofnodi bywyd gwyllt

Dysgwch am gofnodi bywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru a helpwch i wneud hynny!

Darganfod mwy

Beth mae diwrnod gwaith ymarferol yn ei gynnwys

Mae ein dyddiau gwaith ni fel rheol yn rhedeg o 10 a.m. tan ddiwedd y prynhawn a gallwch ddod draw am y diwrnod cyfan neu dim ond am ychydig oriau. Rydyn ni’n gwerthfawrogi pob help yn fawr a does dim angen unrhyw brofiad. Mae ein staff ni bob amser wrth law i ddarparu offer, hyfforddiant a chefnogaeth. Y cyfan sydd arnoch chi ei angen yw hen ddillad (sy’n addas ar gyfer y tywydd); esgidiau gwaith neu welingtyns a phecyn bwyd. Rydyn ni’n gofyn i chi sicrhau bod eich esgidiau'n lân - mae bioddiogelwch yn rhan bwysig o'n gwaith ni.

Mae gweithgorau gwirfoddoli’n ffordd wych o gwrdd ag amrywiaeth eang o bobl sy'n rhannu diddordebau tebyg
Jane Saunders, Gwirfoddolwr

Cymryd rhan drwy ddod yn 'wyddonydd y dinesydd'

Mae gennym ni hefyd gyfleoedd cyffrous i ddysgu am fyd natur, a chyfrannu at ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth am fyd natur yng Ngogledd Cymru. Boed yn monitro bywyd gwyllt pwysig yn un o’n gwarchodfeydd natur ni neu’n edrych ar rai o’r safleoedd bywyd gwyllt pwysig eraill, mae hon yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth eich hun a chefnogi ein gwaith ni. Mae staff a gwirfoddolwyr profiadol eraill wrth law bob amser i roi cyngor ac arweiniad.

Volunteers in pairs, with quadrat grids on a rocky seashore. They are searching through the seaweeds and recording species on clipboards. Behind them the sea is calm in a large curved bay, with a sandy beach opposite.

Shoresearch surveyors Nefyn October 2023 © Dawn Thomas NWWT

Shoresearch

Beth am fod yn Wyddonydd y Dinesydd drwy ymuno ag Arolygon Shoresearch o Lannau Creigiog!

Darganfod mwy
Mexican fleabane, Erigeron karvinskianus

Erigeron karvinskianus (Mexican fleabane) © Lisa Toth NWWT

Dihangwyr Gerddi

Helpwch ni i ddarganfod pa blanhigion addurnol sy’n ymledu mewn gerddi a’r rhai sydd i’w cael y tu allan i erddi

Darganfod mwy

Ymholiadau gwirfoddolwyr

Katy Haines, Swyddog Datblygu Aelodaeth a Gwirfoddolwyr
E-bost: katy.haines@northwaleswildlifetrust.org.uk
Ffôn: 01248 351 541