Taith adar y gwlybdir

A wetland with a larger river and many small streams meandering through grassy fields. On the horizon a mountain range with clouds hanging low to it, then clear deep blue skies above.

landscape_5 © Lin Cummins.

Taith adar y gwlybdir

Lleoliad:
Taith adar y gwlybdir ar hyd y cob i guddfan adar Gwarchodfa Natur Traeth Glaslyn i weld pa adar sy'n ymweld â'r ardal

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod ym mhen y cob, ger Gwesty'r Premier Inn, Teras Britannia, Porthmadog LL49 9AW/stocky.wildfires.lateral. Parcio ar gael ym maes parcio talu ac arddangos Llyn Bach, Porthmadog LL49 9DD/modem.blankets.twists

Dyddiad

Time
12:00pm - 3:00pm
A static map of Taith adar y gwlybdir

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dewch i ymuno â ni am dro hamddenol ar hyd y cob i guddfan adar Gwarchodfa Natur Traeth Glaslyn i weld pa adar sy’n ymweld â’r warchodfa natur yr adeg yma o’r flwyddyn. Byddwn yn cadw cofnod o'r adar rydyn ni’n eu gweld.

Byddwn yn cyfarfod ym mhen y cob ger gwesty’r Premier Inn cyn cychwyn ar dro hamddenol ar hyd y cob gan stopio’n rheolaidd i wylio adar. Pan fyddwn yn cyrraedd y guddfan adar, byddwn yn stopio am bicnic. Dewch â'ch bwyd a'ch diod eich hun gyda chi. Wedyn byddwn yn mynd yn ôl ar hyd y cob i'r man cychwyn.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ar plwm
image/svg+xml

Symudedd

Mae'r daith gerdded ar hyd llwybr cyhoeddus sy'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn. Mae ychydig o stepiau i'r guddfan adar, sy'n anhygyrch i gadeiriau olwyn.

Mae toiledau cyhoeddus ger man cychwyn y daith gerdded ar y Stryd Fawr.

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

I'r llwybrau ond nid y guddfan adar.
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dewch â sbienddrych a llyfrau adar os oes gennych chi rai a gwisgwch ddillad ac esgidiau awyr agored addas.

Dewch â byrbrydau a diodydd os hoffech chi aros am bicnic yn y guddfan adar.

Cysylltwch â ni