Lleoliad Cynorthwy-ydd Dihangwyr Gerddi a Gwarchodfeydd Natur

Lleoliad Cynorthwy-ydd Dihangwyr Gerddi a Gwarchodfeydd Natur

Diwrnod cau:
Cyflog: Costau byw o £250 y mis. Bydd cyllideb hyfforddi o £1500 hefyd. Bydd costau milltiredd yn cael eu talu.
Math y cytundeb: Cyfnod penodol / Oriau gweithio: Llawn amser
Lleoliad:
North Wales Wildlife Trust - Bangor office, Llys Garth, Garth Road, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn chwilio am Gynorthwy-ydd Dihangwyr Gerddi a Gwarchodfeydd Natur ar gyfer lleoliad i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r prosiect Dihangwyr Gerddi (dau ddiwrnod yr wythnos) a chynorthwyo ein staff cadwraeth (tri diwrnod yr wythnos).

Byddwch yn fyfyriwr presennol neu wedi graddio'n ddiweddar, sy'n ddibynadwy, yn gyfrifol, yn llawn cymhelliant ac yn gallu defnyddio blaengaredd. Byddem yn disgwyl sgiliau TG a'ch bod yn gyfforddus yn ymgysylltu â'r cyhoedd ac yn gweithio yn yr awyr agored mewn pob math o dywydd. Byddwch yn gyfathrebwr gwych, gydag agwedd ddymunol, ac yn gallu gweithio gyda llawer o wahanol bobl ar draws yr amrywiaeth hyfryd o ddaearyddiaeth, datblygiad busnes a gweithgareddau'r Ymddiriedolaeth Natur.

Mae hwn yn lleoliad newydd a fydd yn esblygu yn dilyn eich penodi chi felly dylech fod yn gyffrous am yr hyblygrwydd a'r cyfleoedd i weithredu’n arloesol. Sylwch y bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi’i leoli ym Mangor neu’n agos at Fangor am gyfnod y lleoliad (h.y. does dim posib gweithio o bell) ac mae trwydded yrru lawn yn hanfodol.

Rydym yn gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, didwylledd, gweithredu’n bragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Er ein bod yn angerddol dros hyrwyddo ein nodau, nid ydym yn feirniadol ac rydym yn gynhwysol. Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan bobl sy’n cael eu tangynrychioli yn ein sector ni, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau. Rydym wedi ymrwymo i greu mudiad sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad  Efallai y bydd y rôl yma’n gofyn am archwiliad DBS.

Sut i wneud cais

Mae Disgrifiad Swydd llawn i'w weld isod.

Anfonwch eich CV a datganiad cymhelliant (dim mwy na 500 gair) yn egluro eich addasrwydd ar gyfer y lleoliad hwn a'r hyn rydych yn gobeithio ei elwa ohono at Alex Carey ar:
Alex.Carey@northwaleswildlifetrust.org.uk