
Tom Marshall

Meadow © NWWT

Penny Dixie
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch â ni ar gyfer y cwrs cyflwyniadol yma i arddio er budd bywyd gwyllt!
Byddwn yn rhoi sylw i ystod eang o bynciau garddio lle byddwch yn dysgu sut i greu cynefinoedd gwahanol i ddenu bywyd gwyllt i'ch gardd, boed fawr neu fach. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant ystafell ddosbarth ac ymarferol lle byddwch yn dysgu sgiliau newydd a thechnegau garddio er budd bywyd gwyllt.
Byddwn yn cyfarfod bob wythnos, ar Nos Mercher rhwng 18:30-21:00, a bydd gennych rai tasgau syml i’w cwblhau rhwng pob sesiwn er mwyn ennill tystysgrif yr Ymddiriedolaeth Natur mewn garddio er budd bywyd gwyllt.
Byddwch yn cwblhau 20 awr o amser cyswllt a thua 10 awr o astudio preifat.
Bydd y sesiynau’n rhoi sylw i’r pynciau canlynol:
Wythnos 1: Cyflwyniad i Arddio Er Budd Bywyd Gwyllt
Wythnos 2: Priddoedd a Chyfryngau Tyfu
Wythnos 3: Trefnu eich gardd
Wythnos 4: Tyfu Planhigion
Wythnos 5: Lawntiau, dolydd a chaffis neithdar
Wythnos 6: Cartrefi ychwanegol ar gyfer anifeiliaid
Wythnos 7: Dŵr yn yr ardd
Wythnos 8: Dod â phopeth at ei gilydd
Archebwch eich lle ar gyfer y cwrs 8 wythnos yma drwy glicio ar y ddolen archebu. Rhaid i chi fod yn 18+ oed i gofrestru.
Mae'r cwrs yma’n addas i bawb a does dim angen unrhyw sgiliau garddio blaenorol. Os yw hygyrchedd yn bryder, rhowch wybod i ni. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ac rydyn ni’n argymell eich bod yn archebu lle yn gynnar.
Siaradir y trefnydd Gymraeg llafar felly gallwch ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg o dymunwch.
Pris
Cost y cwrs y pen yw £240 (£30 yr wythnos) a bydd hyn yn talu am holl gostau'r cwrs gan gynnwys lluniaeth. Os yw hyn yn rhy ddrud i chi, cysylltwch â ni i weld a allwn wneud trefniadau eraill: iwan.edwards@northwaleswildlifetrust.org.uk
Does dim posib ad-dalu unrhyw daliadau.
Bwcio
Pris / rhodd
Cost y cwrs y pen yw £240 (£30 yr wythnos) a bydd hyn yn talu am holl gostau'r cwrs gan gynnwys lluniaeth. Os yw hyn yn rhy ddrud i chi, cysylltwch â ni i weld a allwn wneud trefniadau eraill: iwan.edwards@northwaleswildlifetrust.org.ukTo see if we can make other arrangements.
Gwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestruYn addas ar gyfer
Oedolion, Arbenigwyr, DechreuwyrGwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Cysylltwch â ni
Cwrdd â'r tiwtoriaid
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal gan ein tîm garddio er budd bywyd gwyllt profiadol.
Anna Williams, Education & Community Wildlife Officer © NWWT
Anna Williams
Magwyd Anna yn Sweden a hyfforddodd mewn coedwigaeth a bu’n gweithio fel botanegydd maes a syrfëwr cyn dechrau yn ei swydd yn rhedeg Prosiect Garddio Er Budd Bywyd Gwyllt Eryri 20 mlynedd yn ôl.
Mae hi bellach yn Swyddog Addysg a Chymuned ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac yn gwasanaethu gogledd orllewin Cymru. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar hyfforddi a helpu ysgolion a chymunedau i greu gerddi sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Mae ganddi brofiad helaeth o gynnal cyrsiau a gwneud gwaith garddio ymarferol. Mae Anna wedi datblygu ei darn o dir ei hun ar y bryn yn hafan i fywyd gwyllt ac mae wedi bod yn tyfu llysiau a ffrwythau i’w theulu ers 30 mlynedd.
Yn ei hamser rhydd, mae’n mwynhau anturiaethau, gan archwilio llefydd gwyllt wrth gerdded, dringo, beicio neu gaiacio. Mae hi'n siarad Cymraeg.

Iwan Edwards, Education & Community Wildlife Officer © NWWT
Iwan Edwards
Astudiodd Iwan Ecoleg ac wedyn treuliodd gyfnod yn teithio ac yn gweithio dramor, cyn dychwelyd i Ogledd Cymru i astudio dylunio Tirweddau a Gerddi yn WCOH. Mae wedi bod yn cyflwyno prosiectau creu cynefinoedd, gwella llecynnau gwyrdd, cymunedol ac addysg i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ers 2010 ac wedi cydgyflwyno rhaglen arddio boblogaidd S4C, ‘Garddio a Mwy’ am y 10 mlynedd diwethaf gyda’i wraig o’u gardd yn Nyffryn Clwyd.

Lisa Toth, Garden Escapers Project Officer © Lisa Toth
Lisa Toth
Mae Lisa yn arddwriaethwraig ac mae hi wedi’i hyfforddi’n broffesiynol fel Dylunydd Gerddi. Mae ganddi gymwysterau gan yr RHS, Capel Manor a’r London College of Garden Design yn Kew, sy’n goleg enwog iawn.
Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn dylunio plannu. Mae Lisa'n gweithio gyda'i chleientiaid ar beth i'w blannu, sut dylent reoli eu gerddi yn well a sut i osgoi rhywogaethau ymledol. Mae hi nawr yn cyfrannu ei gwybodaeth helaeth am blanhigion addurnol at brosiect Dihangwyr Gerddi! Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Mae Lisa yn mwynhau beicio a cherdded, nofio gwyllt, ioga ac archwilio cefn gwlad Cymru gyda’i chi. Mae hi'n siarad Almaeneg a Sbaeneg a ‘mae hi’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd’.