Gwarchod y bywyd gwyllt rydych chi’n ei garu
Gwnewch 2024 yn flwyddyn grêt i chi ac i’r bywyd gwyllt dan fygythiad rydych chi’n ei garu yng Ngogledd Cymru. Ymunwch heddiw o £3.00 y mis a dod yn arwr bywyd gwyllt …
Cymrwch ran yn y gweithgarwch, ymwelwch â 35 o warchodfeydd gwych a mwynhau mynedfa i dros 140 o weithgareddau - tra’n teimlo’n gynes braf gan wybod y bo chi yn cyfrannu’n unol i warchod y bywyd gwyllt bregus ar draws Ogledd Cymru.
Mae darparu rhaglenni cadwraeth i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau’r tirweddau llawn bywyd gwyllt rydyn ni’n eu mwynhau heddiw’n dasg enfawr. Rydyn ni’n dibynnu llawer iawn ar aelodau i greu’r cyllid sydd ei angen i wneud hyn. Ni allwn ddiogelu cynefinoedd gwerthfawr a bywyd gwyllt bregus Gogledd Cymru heb gefnogaeth y rhai sy’n byw ac yn gweithio o’u hamgylch.
Fe rydym yn dallt y bod ymaelodi â ni yn ymroddiad mawr a dwi’n siŵr y bod gennych gwestiwn neu ddau i’w gofyn – felly teimlwn y basa chi’n hoffi ein adnabod ni’n well, gwthiwch y linc ar waelod y dudalen yma, os gwelwch yn dda am ragor o wybodaeth.
Ymunwch Heddiw a derbyn Llefydd Gwyllt i’w Darganfod yn anrheg am ddim. (RRP £7.50)
Y canllaw newydd i rai o’r llefydd mwyaf arbennig i fywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru. Mae’r llyfr yn cynnwys y 35 o warchodfeydd natur sydd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae’r gwarchodfeydd hyn ymhlith yr esiamplau gorau o gynefinoedd lled-naturiol yn yr ardal, gan ddarparu gwarchodaeth i rywogaethau prin a llefydd i bobl fwynhau bywyd gwyllt.
Hefyd mae’r llyfr yn ceisio eich helpu chi i gael y gorau o’ch ymweliad â gwarchodfeydd YNGC a’i llecynnau pwysig i fywyd gwyllt ar hyd yr arfordir.
Mae cefnogwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd yn derbyn...........
Disgownt o 15% yn Cotswold Outdoors
Disgownt o 10% ar fynediad i Sŵ Môr Môn
Disgownt o 10% ar fynediad i Barc Teuluol Gelli Gyffwrdd
Disgownt wrth archebu y Guddfan Gwalch y pysgod yn Brenig
Byddwch yn cael y canlynol...
• Canllawiau i'ch gwarchodfeydd natur leol • Tri rhifyn o gylchgrawn Natur Gogledd Cymru
• E-gylchlythyr natur wythnosol • Mynediad i fwy na 140 o ddigwyddiadau
Aelodaeth teulu
Hefyd mae aelodau’r teulu’n derbyn pecyn croeso gwych i blant a phedwar rhifyn o gylchgrawn Gwyllt! - yn llawn gwybodaeth, cystadlaethau, posau a phrosiectau!
Aelodaeth Rhodd
Prynwch aelodaeth Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i rywun arall fel anrheg.
Ein gweledigaeth ni yw byd naturiol ffyniannus, gyda bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol yn chwarae rhan werthfawr wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, a phobl wedi’u hysbrydoli a’u grymuso i weithredu dros fyd natur. Ein pwrpas ni yw dod â bywyd gwyllt yn ôl, grymuso pobl i weithredu dros fyd natur, a chreu cymdeithas lle mae byd natur o bwys.
Dyma be sydd gan Iolo Williams Is-lywydd yr Ymddiriedolaethau Natur ddweud am ymuno â Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Nid oedd gen i syniad fod gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru cyn gymaint o warchodfeydd natur, rwyf wedi mwynhau ymweld â nhw ac maen wych i wybod bod fy aelodaeth yn helpu i’w amddiffyn hwy.
“Dwi’n hoffi bod yn aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru oherwydd maent yn rhedeg teithiau tywys a digwyddiadau eraill y gallai ymuno ynddynt. Er enghraifft yr wythnos diwethaf mi wnes i fwynhau gweithdy plethu clwydi helyg y redwyd ganddynt hefyd.”