Dod â’r gwyllt yn ôl yn fyw. Gyda’n gilydd.
Rydyn ni’n fudiad ar lawr gwlad o bobl sy’n cydweithio er lles bywyd gwyllt.
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn y DU yn gwella llefydd ar gyfer bywyd gwyllt ac yn dylanwadu ar lywodraethau i ddiogelu dyfodol bywyd gwyllt. Ein haelodau ni yw asgwrn cefn y mudiad – gyda’ch cefnogaeth chi rydyn ni’n gallu cyfeirio cyllid i fynd i’r afael â’r heriau mae bywyd gwyllt yn eu hwynebu.
Ein gwirfoddolwyr ni
Ymunwch â rhwydwaith o fwy na 350 o bobl debyg i helpu i warchod bywyd gwyllt a chefn gwlad Gogledd Cymru.
Ein grwpiau lleol ni
Ble bynnag rydych chi’n byw yng Ngogledd Cymru, mae cangen leol o’r Ymddiriedolaeth Natur yn agos atoch chi.
Mae’r rhain yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr sy’n helpu i godi proffil yr Ymddiriedolaeth Natur yn eu cymunedau lleol. Maent yn trefnu llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar thema bywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys teithiau tywys, dyddiau hwyl i’r teulu a sgyrsiau gan arbenigwyr lleol. Beth am fynd i un o’u cyfarfodydd a chymryd mwy o ran? Byddwch yn cysylltu â phobl leol sy’n rhannu diddordeb cyffredin mewn bywyd gwyllt. Os ydych chi’n arweinydd cerdded, yn paentio wynebau neu’n pobi cacennau, fe allwch chi fod yn ddelfrydol ar gyfer eich Cangen leol.
Ein staff ni
Mae ein staff yn gweithio yn ein prif swyddfa ym Mangor a’n swyddfa ar Warchodfa Natur Aberduna ger Y Wyddgrug. Mae staff ein gwarchodfeydd natur yn wybodus am fywyd gwyllt eu hardaloedd lleol ac mae ein staff addysg ac ymgysylltu â’r gymuned yn awyddus i rannu eu brwdfrydedd heintus dros fywyd gwyllt lleol. Mae ein staff cefnogi, sy’n gweithio ym Mangor, yn fwy na pharod i helpu gydag aelodaeth, cyllid, codi arian, cyfathrebu ac ymholiadau cyffredinol.
Sut rydyn ni'n cael ein rhedeg
Mae ein Hymddiriedolwyr yn grŵp o wirfoddolwyr sydd â chyfrifoldeb ariannol a chyfreithiol am bopeth mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud.
Mae ein Hymddiriedolwyr yn cynnig amrywiaeth eang o wybodaeth, arbenigedd a phrofiad i’r elusen ac yn gyfrifol am gymeradwyo ein cynlluniau strategol, ein cyllideb flynyddol a’n Hadroddiad a’n Cyfrifon Blynyddol.
Penodir Ymddiriedolwyr o’n sylfaen o aelodaeth yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Ymddiriedolaeth bob mis Tachwedd.
Geoff Radford (Is-lywydd)

Geoff Radford © NWWT
Ymunodd Geoff â'r Ymddiriedolaeth am y tro cyntaf yn y 1970au, a phan ymddeolodd o'r Sefydliad Ecoleg Daearol yn 1997, cododd ei gyfraniadau gwirfoddol i'r Ymddiriedolaeth i lefel uwch. Mae ei ddylanwad wedi bod yn ganolog i ddatblygiad yr Ymddiriedolaeth, a dyfodd o'i gyfraniad gweithredol cychwynnol yng Nghangen Ynys Môn yr Ymddiriedolaeth, yna drwy bwyllgorau cynghori (Cadwraeth, Cyllid, Eiddo ac Ystadau) ac i Gyngor yr Ymddiriedolaeth. Bu'n gwasanaethu fel Is-Gadeirydd yn 2005, ac yna'n gyflym drwy gael ei ethol fel Cadeirydd lle bu'n gwneud y swydd tan 2010. Fel Cadeirydd, roedd yn uchel ei barch ac yn ganolog yng ngwaith cydweithredol a strategol yr Ymddiriedolaeth, drwy sefydliad UK Wildlife Trust ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru. Bu Geoff yn Gadeirydd Cangen Ynys Môn am dros 20 mlynedd, a hyd heddiw mae’n dal i gefnogi proses adrodd staff i gyllidwyr, a'n mapio digidol. Mae'n wirfoddolwr gwarchodfa natur ymarferol weithredol a bydd yn cael ei weld y rhan fwyaf o wythnosau yn gweithio i warchod glaswelltir blodau gwyllt drwy glirio prysgwydd a rhedyn, plannu coed, a glanhau traethau.
Goronwy Wynne (Is-lywydd)

Goronwy Wynne, Trustee
Wedi’i eni a’i fagu yn Sir y Fflint, graddiodd Goronwy o Brifysgol Bangor mewn Amaethyddiaeth a Botaneg, addysgodd Fioleg yn ei hen ysgol yn Nhreffynnon ac wedyn daeth yn Brif Ddarlithydd mewn Bioleg yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru, Wrecsam. Mae'n Gymrawd o Brifysgol Bangor ac o Gymdeithas Linnean Llundain; a bu'n gofnodwr Cymdeithas Fotanegol Ynysoedd Prydain ar ran Sir y Fflint am 40 mlynedd. Dyma lle mae wedi cyfrannu mor llawn at waith YNGC. Yn 1993 cyhoeddodd ei waith mawr Flora of Flintshire a dyfarnwyd PhD iddo amdano. Mae ei ddiddordeb mewn hanes natur ac ecoleg yn parhau mor frwd ag erioed.
Pippa Bonner (Is-lywydd)

© NWWT
Yn ogystal â chynnal diddordeb brwd mewn bywyd gwyllt, bu Pippa yn godwr arian selog i YNGC am 20 mlynedd tan 2015. Yn ystod y cyfnod hwn, oherwydd ei harweinyddiaeth, roedd yr Ymddiriedolaeth yn un o'r ychydig elusennau amgylcheddol oedd yn gweithredu canolfannau gwerthu pwrpasol yn seiliedig ar ymdrech wirfoddol yn unig, ac ni sicrhaodd yr un ohonynt gyfran mor uchel o'i hincwm anghyfyngedig o is-gwmni masnachu. Yn ystod ei chyfnod yn gweithredu gyda ni, cododd Pippa a'r tîm gwerthu fwy na £250,000 i'r Ymddiriedolaeth.
Roedd cymeriad di-flewyn-ar-dafod a chefnogol Pippa gydag ymrwymiad i’r tasgau a gyflawnodd yn rhoi safon a lefel gwasanaeth o’r radd flaenaf. Bu’n Ymddiriedolwr am 7 mlynedd, o 1995 yn Gyfarwyddwr Masnachu YNGC am 20 mlynedd, a bu hefyd yn aelod hirsefydlog o Bwyllgor Cangen Ynys Môn yr Ymddiriedolaeth. Oherwydd ei chyfraniad eithriadol at wasanaethau gwirfoddol cafodd ei gwobrwyo ag anrhydedd genedlaethol fel Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn 2012.
Mae Pippa yn parhau fel cefnogwr yr Ymddiriedolaeth er ei bod bellach yn byw yn agos at ei theulu yn Swydd Gaerloyw.
Howard Davies (Cadeirydd ac Ymddiriedolwr)

Howard Davies © NWWT
Rwy'n teimlo'n angerddol dros yr amgylchedd ac rwyf wedi hyrwyddo Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC) ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae gennyf brofiad o lywodraethu yn sgil rolau mewn rheoli elusennau ac fel aelod o fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Rwy'n gadeirydd profiadol, yn Ysgrifennydd Cwmni, ac yn gyfryngwr a hyfforddwr achrededig. Rwyf wedi bod yn Brif Weithredwr elusen amgylcheddol ers deng mlynedd. Mae gennyf radd mewn bioleg, diddordeb angerddol mewn pobl a lle, a hyrwyddo cydweithio. Rwy'n aelod o Gomisiwn y Byd yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar Ardaloedd Gwarchodedig, yn Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a'r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer y celfyddydau, gweithgynhyrchu a masnach (RSA), ac yn Is-lywydd Anrhydeddus YNGC.
Alex Lord (Trysorydd ac Ymddiriedolwr)

Alex Lord © NWWT
Rwyf yn angerddol tros y byd natur a chadwraeth, gyda chefndir mewn Söoleg a gwaith cadwraethol yn Belize. Mae fy sgiliau yn y byd cyllid ac ariannol – o waith masnachol a strategol i gydymffurfio, trefn llywodraeth ac ymarfer gorau gyda tros saith mlynedd o brofiad Pwyllgora mewn rôl gweithredol – sydd, yr wyf yn meddwl, yn yng wneud i yn addas iawn i’r rôl yma i helpu gyrru’r elusen ymlaen tra’n parhau â’i hysbryd ac yn gweithredu fel ceidwaid i’w ei dyfodol. Rwyf yn teimlo’n gryf fod, trwy ymrwymo â chymunedau ar lefel lleol yn gallu diogelu amrediad o gynefinoedd gwahanol a chynnig y enillion gorau ar fuddsoddiadau.
Daniel Bos (Ymddiriedolwr)

Daniel Bos, Trustee
Fel daearyddwr academaidd, mae gen i dros ddegawd o brofiad addysgu ac ymchwil yn archwilio'r rhyng-gysylltiadau rhwng tirweddau, pobl, ac amgylcheddau naturiol. Mae fy ymchwil, fy addysgu a fy niddordebau personol yn ceisio grymuso pobl i hyrwyddo cyfiawnder amgylcheddol. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn materion yn ymwneud â hygyrchedd a chynhwysiant i fyd natur a’r rôl y gall technolegau digidol ei chwarae wrth gysylltu’r cyhoedd â materion amgylcheddol.
Chris Brown (Ymddiriedolwr)

Chris Brown ©
Rydw i’n dod o deulu o Fangor (ychydig o ffeithiau difyr – fe drefnodd fy hen hen daid a nain y mudo o Gymru i Batagonia yn 1865, ac fe wnaeth fy nhaid sefyll, yn aflwyddiannus, fel aelod o’r Senedd yn 1929 ym Mwrdeistrefi Caernarfon, yn erbyn Lloyd George).
Rydw i'n cael fy sbarduno gan bwrpas ac mae gen i enw da iawn ym maes eiddo a chyllid. Sefydlais Gorfforaeth B eiddo tiriog gyntaf y DU a chronfa eiddo tiriog gyfrifol gyntaf y byd.
Mae fy nghefndir academaidd i mewn ecoleg ac economi tir. Rydw i wedi bod yn gyfrannwr at brosiect Bryn Ifan ac yn helpu i ofalu am goetir llydanddail ifanc yng Nghwm Pennant, ym Mharc Cenedlaethol Eryri, a fydd, gobeithio, yn dod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol ar gyfer Cymru.
Rydw i wedi bod yn aelod o fyrddau nifer o elusennau a busnesau. Rydw i hefyd yn cynghori bwrdd Cymdeithas Adeiladu’r Nationwide ar newid yn yr hinsawdd. Rydw i’n cyfrannu dealltwriaeth o ddefnyddio ffurfiau newydd o Gyllid Natur, gan gyfuno gwahanol ffynonellau o gyllid i ehangu gallu’r Ymddiriedolaeth i helpu adferiad byd natur wrth fynd ar drywydd ein nodau 30 erbyn 30.
Dafydd Davies (Ymddiriedolwr)

Dafydd Davies ©
Rydw i’n siaradwr Cymraeg ac yn byw yn Nhremeirchion, Sir Ddinbych gan edrych ar draws y dyffryn am Warchodfa Natur Y Graig yr Ymddiriedolaeth. Fe wnes i ymddeol yn 2017 fel Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych gyda chyfrifoldeb am berthynas y Cyngor gyda’r Trydydd Sector a Swyddog Arweiniol ar gyfer datblygu polisïau corfforaethol allweddol gan gynnwys Polisi Cydraddoldeb a Chynllun Iaith Gymraeg y Cyngor.
Rydw i wedi bod yn ynad lleol ers dros 27 mlynedd, rydw i’n llywodraethwr ysgol, yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir y Fflint ac yn ymddiriedolwr ar ran Amgueddfa Dinbych.
Mae gen i hoffter mawr o gefn gwlad a'i rywogaethau ac rydw i’n credu’n gryf bod gennym ni i gyd ran i'w chwarae, dim ots pa mor fawr neu fach, mewn gwarchod a meithrin ein cynefin naturiol, boed yn gefn gwlad, ein hafonydd neu ein hamgylchedd morol.
Rydw i’n gobeithio y gall fy mhrofiad o ymgysylltu a grymuso cymunedol gynorthwyo'r Ymddiriedolaeth wrth iddi ddatblygu ei pherthynas â'i haelodaeth gynyddol a ffurfio partneriaeth gyda phrosiectau cymunedol lleol.
Catherine Duigan (Ymddiriedolwr)

Catherine Duigan ©
Mae bod yn Ymddiriedolwr gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn fy ngalluogi i barhau i rannu fy sgiliau, fy ngwybodaeth a fy mhrofiad er budd fy nghymuned a fy amgylchedd lleol.
Mae cadwraeth natur ac ymchwil gwyddonol wedi bod yn ganolbwynt i fy ngyrfa i yn y byd academaidd a gydag asiantaethau'r llywodraeth. Fel ymddiriedolwr mae gen i ddealltwriaeth frwd o faterion gweithredol a gweithio ar draws y rhyngwyneb gwyddoniaeth-polisi.
Fe ddatblygodd fy mhrofiad llywodraethu i ar amrywiaeth o fyrddau anweithredol ac elusennau, gan gynnwys pennu cyfeiriad strategol, ac fel uwch reolwr ar arbenigwyr technegol yn gweithio ar yr heriau presennol sy’n wynebu cynefinoedd a rhywogaethau morol, dŵr croyw a thir.
Rydw i’n angerddol am warchodfeydd natur, adfer cynefinoedd a threftadaeth naturiol sy’n ffurfio ac yn diffinio ein tirweddau ni yng Nghymru. Mae ymgysylltu meddyliau ac ennill calonnau yn rhan sylfaenol o fy null i o fynd i’r afael â materion hollbwysig colli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd.
Ian Dunsire (Ymddiriedolwr)

Ian Dunsire ©
Ers symud i Ogledd Cymru o Ynys Wyth fwy na 10 mlynedd yn ôl, rydw i wedi bod yn helpu’r Ymddiriedolaeth, yn gyntaf fel Trysorydd am naw mlynedd yn ystod cyfnod o esblygiad cyflym ac, ers rhoi’r gorau i’r rôl honno y llynedd, rydw i’n parhau fel Ysgrifennydd Cwmni ar gyfer y Grŵp. Fe wnaeth fy ngwraig, Barbara, a minnau, wynebu’r her ar dyddyn naw erw yn edrych dros Benrhyndeudraeth pan wnaethon ni symud yma a, gyda help a chyngor gan yr Ymddiriedolaeth, rydyn ni wedi gweithio’n galed i wneud y dolydd, y gwrychoedd a’r coedlannau yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt. Mae'r canlyniadau hyd yma wedi bod yn galonogol iawn o ran amrywiaeth a nifer y planhigion a'r bywyd gwyllt.
Urtha Felda (Ymddiriedolwr)

Urtha Felda ©
Rydw i wedi byw yn Gerlan ers 40 mlynedd, ychydig islaw mynyddoedd y Carneddau. Rydw i'n deffro ac yn cerdded yng ngolwg y dirwedd ryfeddol yma bob dydd. Mae fy nheulu i, y plant a'r wyrion, yn byw yn lleol. Mae ein hoffter ni o gefn gwlad a'r ardal fynyddig yma'n cael ei drosglwyddo i'n cenedlaethau iau ni. Rydw i'n angerddol am weld y gwaddol yma'n parhau, er mwyn i’n tirwedd a’n bywyd gwyllt ni gael eu gwarchod, ac er mwyn i genedlaethau’r dyfodol o bob rhywogaeth ffynnu.
Mae fy nghefndir i yn y sector cyfreithiol ac elusennol, yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl agored i niwed. Gyda phrofiad o lywodraethu, cadeirio, rheoli prosiectau a darlithio, mae gen i ystod o sgiliau perthnasol ar gyfer gwaith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Ar hyn o bryd rydw i'n gweithio gyda The National Association of Schoolmasters Union of Women Teachers (NASUWT) fel eiriolwr, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) fel Aelod Annibynnol ac Is Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, fel Cadeirydd Paneli Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru ac fel Darlithydd yn y Gyfraith gyda’r Brifysgol Agored. Rydw i hefyd yn siarad Cymraeg ar ôl dysgu Cymraeg wrth fyw yma.
Alasdair Forman (Ymddiriedolwr)

Alasdair Forman ©
Rydw i'n dod o Ogledd Cymru gydag angerdd dros gadwraeth natur ac yn falch o wasanaethu fel Ymddiriedolwr gydag YNGC. Gyda mwy na 25 mlynedd o brofiad corfforaethol ac elusennol, rydw i wedi datblygu sgiliau mewn nifer o feysydd a all gyfrannu at y genhadaeth gobeithio, fel cynllunio strategol, dylunio a chyflawni a datblygu partneriaethau. Mae’n bleser gweithio gyda thîm mor wych wrth i ni anelu at gyflawni ein Strategaeth 2030 newydd ac uchelgeisiol.
Gina Mills (Ymddiriedolwr)

Gina Mills © NWWT
Yn 2018, fe wnes i ymddeol o Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU ym Mangor lle roeddwn i, fel Arweinydd Grŵp, yn rhan o’r Tîm Rheoli Gwyddoniaeth. Rydw i'n arbenigwr ar effeithiau llygredd aer a newid yn yr hinsawdd ar lystyfiant, ac wedi gweithio ar y rhyngwyneb gwyddoniaeth-polisi o raddfa genedlaethol i raddfa fyd-eang, gan gynnwys ar gyfer Confensiwn Llygredd Aer y Cenhedloedd Unedig. Ers 2019, rydw i wedi cyfrannu at YNGC drwy gadeirio’r Grŵp Cynghori Morol ac, yn fwy diweddar, y Pwyllgor Llywodraethu Ecosystemau Morol (Môr). Fel ymddiriedolwr, rydw i hefyd yn darparu arbenigedd i'r Bwrdd mewn gwyddoniaeth amgylcheddol, rheolaeth a datblygu polisi.
Ffion Mitchell-Langford (Ymddiriedolwr)

Ffion Mitchell-Langford, Trustee
Rydw i’n wyddonydd morol cymwys ac yn Rheolwr Gwirfoddoli ac Ymgysylltu Cymunedol dwyieithog ar gyfer Gogledd Cymru gyda mwy na 4 blynedd o brofiad yn y sector elusennol – gan gynnwys 2 flynedd a hanner mewn ymchwil polisi, rheoli prosiectau ac ymgysylltu â’r gymuned yn y Gymdeithas Cadwraeth Forol, a mwy na blwyddyn o brofiad fel Ymddiriedolwr gyda Chyswllt Amgylchedd Cymru. Yn gefnogwr brwd i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’i hymrwymiad i ddod â phobl yn nes at natur, rydw i’n gobeithio cyfrannu ymhellach at ddiogelu dyfodol yr Ymddiriedolaeth drwy ddarparu gwybodaeth a phersbectif ffres fel person ifanc sydd â dealltwriaeth gadarn o lywodraethu da, tirwedd cadwraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Bridget Osborne (Ymddiriedolwr)

Bridget Osborne ©
Fe wnes i ddysgu caru byd natur fel plentyn yn tyfu i fyny yn y wlad, ond i faes meddygaeth es i fel gyrfa. Roedd prynu fferm pan symudais i Gymru yn 1989 yn gyfle i ffermio gyda bywyd gwyllt a’i annog ochr yn ochr â gweithio fel meddyg teulu a magu teulu.
Ar ôl ymddeol, fe hoffwn i ddefnyddio’r sgiliau trefnu ac ymgyrchu wnes i eu dysgu yn fy ngwaith i helpu byd natur ar yr amser tyngedfennol yma i lawer o’n rhywogaethau ni sydd mewn perygl. Er y gallaf wneud hyn ar lefel leol iawn ar fy fferm fy hun, hoffwn allu dylanwadu ar eraill ar raddfa ehangach drwy gyfrannu at waith YNGC.
Becoming a trustee film (https://www.youtube.com/watch?v=KAyq5AP-qd4)
Becoming a Trustee © The Wildlife Trusts
Sut i ddod yn Ymddiriedolwr
Ydi’r sgiliau ar wybodaeth gennych â all helpu ni redeg Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru? Ystyriwch, os gwelwch yn dda, ymuno â’n tîm o Ymddiriedolwyr cyfeillgar, sydd o wahanol gefndiroedd, y cwbl yn dod â’i cyfraniadau unigryw i helpu ni reoli’r elusen. Mae ein Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr yn rhoi fwy o wybodaeth am y rôl ac sut i ymgeisio.
Fe all unrhyw aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fod yn Ymddiriedolwr, cyn belled ac maent yn deilwng i sefyll am etholaeth o dan y gyfraith cwmni a chyfraith elusen. Nid oes angen unrhyw gymwysterau gosodedig, ond bydd angen sgiliau a phrofiad eang er mwyn i’n Pwyllgor o Ymddiriedolwyr fod yn un effeithiol. Mae ein Ymddiriedolwyr yn cael eu hethol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, sydd ei chynnal pob fis Tachwedd.