Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor yn ystod y dyddAmser gorau i ymweld
Hydref a gwanwyn ar gyfer adar mudol; yr haf ar gyfer adar bridio. Un awr cyn ag ar ôl llanw uchel ydy’r adeg gorau ar gyfer golygfeydd o adar ar yr aber.Am dan y warchodfa
Cuddfannau adar a sbienddrych
Mae cyfres o fôr-lynnoedd Spinnies Aberogwen a’r cynefin o amgylch yn darparu cysgod a bwyd i adar gwyllt, adar rhydio ac adar llai, yn enwedig yn ystod y mudo yn yr hydref a’r gwanwyn. Mae’r warchodfa drws nesaf i aber Afon Ogwen a’r fflatiau llaid llanwol o’r enw Traeth Lafan. Mae llanw a thrai cyson y môr yn denu rhywogaethau anhygoel – gan gynnwys, ar achlysuron prin, gwalch y pysgod. Mae clystyrau tal a gosgeiddig o gawn cyffredin yn darparu safleoedd nythu cysgodol ar gyfer ieir dŵr ac mae’n lle rhagorol i wylio’r crëyr glas a’r crëyr bach copog yn hela! Drwy gydol y flwyddyn bron, mae plu lliwgar glas y dorlan yn olygfa gyfarwydd a phoblogaidd wrth iddo glwydo o amgylch y warchodfa a phlymio i’r dŵr i chwilio am ysglyfaeth. Mae’r cuddfannau a’r offer bwydo adar yn gyfleoedd gwych i ymwelwyr fwynhau’r bywyd gwyllt yn agos iawn.
Gweithgorau gwych
Mae’r gwirfoddolwyr a’r staff yn cydweithio i reoli coetir, glaswelltir, corslwyni a môr-lynnoedd y warchodfa; gan ddarparu amgylchedd naturiol amrywiol sy’n gartref i lawer o wahanol anifeiliaid a phlanhigion. Mae giât arbennig ar ffurf llifddor yn rheoli lefel y dŵr a’r halen, drwy adael dŵr allan a’i atal rhag llifo’n ôl i mewn, i helpu i atal gorlifo ac i sicrhau bod y môr-lyn yn parhau’n ddŵr croyw. Mae gweithgorau misol yn helpu i gynnal a chadw cuddfannau’r adar a’r llwybrau troed ac mae’r gwaith o ddarparu bwyd adar yn y cuddfannau’n cael ei gefnogi gan lawer o unigolion a sefydliadau lleol – diolch yn fawr bawb!
Oeddech chi wybod?
Mae gwlybdiroedd y warchodfa natur wedi’u creu gan ddyn yn bennaf: credir mai ‘pyllau tyllu’ y cloddiwyd pridd ohonynt ydynt, ac yn sicr maent yn sgil-gynhyrchion y gwaith o ddargyfeirio Afon Ogwen a’i chreu’n gamlas yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cyfarwyddiadau
Mae’n hawdd cyrraedd Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen o Gyffordd 12 yr A55. Ewch am Fangor/Tal-y-Bont a chadw llygad am yr arwydd ‘Gwarchodfa natur’ brown. Dilynwch yr arwydd i lawr y ffordd fechan am ryw filltir nes cyrraedd maes parcio’r arfordir (SH 615 723), cyn cerdded yn ôl yn ofalus am un o fynedfeydd y warchodfa.
Ymunwch fel aelod o dim ond £3 y mis a'n helpu ni i amddiffyn mwy o leoedd fel hyn
Rhywogaethau
Cysylltwch â ni
Gwnewch Rodd
Support us
Join today!