Cyngor ecoleg proffesiynol ar y system gynllunio drwy ymgynghori’n uniongyrchol ag Awdurdodau Lleol.
Mewnbwn polisi a chynllunio strategol
Mae cyfleoedd i ddylanwadu ar bolisïau a strategaethau cynllunio’n hanfodol bwysig i siapio cefn gwlad Cymru. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymwneud, naill ai’n uniongyrchol neu drwy gyfrwng ei sefydliadau partner ac ymbarél, i ddylanwadu ar bolisïau a chynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Ar hyn o bryd, mae’r brif ddeddfwriaeth allweddol yn cynnwys Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (mae deddfwriaeth sylfaenol bellach yn ymwneud â phrosiectau seilwaith). Yn amgylchedd y môr, mae’r ddeddfwriaeth a’r polisïau perthnasol yn cynnwys: y Ddeddf Mynediad Morol ac Arfordirol (2009), y Datganiad Polisi Morol a’r Gyfarwyddeb Cynllunio Gofodol Morol (Cyfarwyddeb yr UE 2014/89/EU).
Ymateb i geisiadau cynllunio
Gallwn ymateb i gynigion ceisiadau cynllunio, gan helpu Awdurdodau i fodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol a pholisi tuag at fywyd gwyllt, yn enwedig os ydym yn gweld effaith arwyddocaol. Rydyn ni’n ymwneud â cheisiadau sy’n debygol o greu risgiau neu gyfleoedd sylweddol i fywyd gwyllt neu swyddogaeth ecosystemau. Rydyn ni’n adolygu polisïau’r Cynllun Lleol neu’r Fframwaith Datblygu Lleol i sicrhau bod bywyd gwyllt yn cael ei warchod ac i helpu i ganfod cyfleoedd i adfer a gwella cynefinoedd. Rydyn ni’n cyflogi ecolegwyr profiadol sydd â dealltwriaeth fanwl o fywyd gwyllt lleol a pholisi cynllunio lleol.
Hefyd rydyn ni’n ceisio grymuso unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i warchod eu bywyd gwyllt lleol ac i wneud hyn fel mae adnoddau’n caniatáu.
Rydyn ni’n parhau’n niwtral mewn datblygiadau. Ein ffocws ni bob amser yw helpu’r Awdurdod Lleol, yr awdurdod statudol, i sicrhau’r canlyniad gorau i fywyd gwyllt. Rydyn ni mewn sefyllfa unigryw i ddarparu cyngor doeth, teilwredig a seiliedig ar dystiolaeth i Awdurdodau Cynllunio Lleol. Rydyn ni’n defnyddio ein gwybodaeth leol am fywyd gwyllt Gogledd Cymru a’n dealltwriaeth o bolisi a deddfwriaeth gynllunio i helpu i weld pryd, sut a ble ddylai bioamrywiaeth gael ei gwarchod a’i gwella gan y system gynllunio.
Cydweithio
Mae cydweithio’n allweddol i weithredoedd cyffredinol yr Ymddiriedolaeth ac felly’n elfen hanfodol o’i chyfraniad at gynllunio. Rydyn ni’n gweithio’n agos ag ymddiriedolaethau natur eraill Cymru, drwy fudiad Ymddiriedolaethau Natur Cymru, ar bolisïau a datblygiadau deddfwriaethol ac, os yw hynny’n briodol, rydyn ni’n ymgynghori â sefydliadau cadwraeth eraill ar ymatebion i geisiadau cynllunio.