Gwyrthiau naturiol y gaeaf
Mae rhai’n dweud bod y gaeaf yn ddifywyd. Ond dydi hynny ddim yn wir. Mae llawer o adar fu’n brwydro yn erbyn ei gilydd drwy gydol y gwanwyn a’r haf yn ymgynnull nawr mewn heidiau enfawr ac mae drudwy’n llenwi’r awyr gyda phatrymau anhygoel eu murmur. Mae ymwelwyr o’r Arctig yn gwneud yr arfordir yn gartref iddyn nhw eu hunain dros y gaeaf ac mae poblogaethau o forloi’n llusgo’u hunain allan ar ein traethau i hawlio eu tiriogaeth yn swnllyd. Dyma amser caletaf y flwyddyn ond hyd yn oed yn ystod y cyfnod tywyll, oer a digalon yma ar adegau, mae bywyd yn mynd yn ei flaen.