Moroedd Byw YN FYW!
O 21 Awst ymlaen, byddwn yn teithio ledled Gogledd Cymru i ddod â ‘Moroedd Byw Yn Fyw!’ i’ch ardal chi. Dyma gyfres o sioeau teithiol bywyd gwyllt undydd sy’n dangos bywyd gwyllt y môr a’r arfordir yn yr ardal leol. Wedi’r cyfan, mae gan Gymru tua 1,700 o filltiroedd o arfordir a gyda bron i 15,000km2 o fôr, mae’n gartref i gasgliad eang o fywyd gwyllt rhyfeddol!
Hefyd byddwn yn gofyn i chi ddweud eich Straeon y Môr wrthym ni. Rydyn ni eisiau tyrchu i’r gorffennol a chasglu eich atgofion byw chi am brofiadau o fywyd gwyllt – gallai’r rhain fod yn fwy arwyddocaol nag ydych chi’n ei feddwl i weithredu dros gadwraeth heddiw. Efallai y byddwch chi’n gweld bod gennych chi wybodaeth, straeon, arteffactau ac atgofion nad oes gan unrhyw un arall, neu sydd wedi’u hanghofio fel arall. Dewch â nhw gyda chi i’r sioe deithiol neu ffoniwch ni gyda’r wybodaeth!
Allan hyd y lle
21ain Awst 2018: Aberdyfi
23ain Awst 2018: Amlwch
24ain Awst 2018: Porthdinllaen
26ain Awst 2018: Caergybi
27ain Awst 2018: Traeth y Gorllewin, Llandudno
29ain Awst 2018: Y Rhyl
1af Medi 2018: Morfa Bychan / Traeth y Graig Ddu
2il Medi 2018: Aberdaron
29ain Hydref – 2il Tachwedd 2018: Castell Harlech