Trosglwyddwyd y gwaith o reoli gwarchodfa natur Gwaith Powdwr ger Penrhyndeudraeth i ddwylo Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gan ICI yn 1998. Wedyn cafodd yr hen ffatri ffrwydron yma, a chwaraeodd ran bwysig yn y ddau ryfel byd, ei dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 2004 oherwydd presenoldeb clwydi ystlumod pedol lleiaf yn yr adeiladau, y cysgodfannau i fomiau a’r twnelau oedd dal yno ar ôl datgomisiynu.
Mae arolygon rheolaidd ers hynny wedi dangos bod y safle’n bwysig i ystlumod sy’n gaeafgysgu, yn chwilio am fwyd ac yn cymudo i ac o glwydi eraill, ac i ymddygiad cymdeithasol, ond nid oedd clwyd mamolaeth yma i’r benywod ddod at ei gilydd i eni eu rhai bach yn yr haf.
Mae darparu amodau addas ar gyfer clwyd mamolaeth wedi bod yn flaenoriaeth i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ers gofalu am y warchodfa, ac nid yw hon yn dasg hawdd i rywogaeth sy’n gallu bod yn eithaf ffyslyd o ran tymheredd, closrwydd a gofynion cynefin cyffredinol!
Yr haf yma, gyda help y cyfnod hir o dywydd poeth ym mis Mehefin siŵr o fod, cofnodwyd pedwar ystlum pedol lleiaf gydag un ystlum bach am y tro cyntaf yn yr hen sied storio ffrwydron gafodd do newydd yn ôl yn 2015. Mae’n bosib bod yr ystlumod yma wedi dod o glwyd mamolaeth arall ar ôl i rywun darfu arnynt. Fodd bynnag, y gobaith ydi y byddant yn dod yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn nawr i chwyddo poblogaeth y warchodfa natur ôl-ddiwydiannol ryfeddol yma ... cadwch lygad yma am fwy o newyddion!