Am beth ydych chi’n meddwl wrth glywed y geiriau ‘fforest law’? Nid coetir deiliog, llydanddail, yn llawn coed derw mawreddog a choed bedw tal, rwy’n siŵr! Yn lle meddwl am adar paradwysaidd, dychmygwch dylluan frech â’i llygaid oren; ac yn lle morgrug deildorrol, glöyn byw cain glesyn y celyn; ac yn lle bromeliadau, bryoffytau lliwgar.
Mae’n anodd credu bod fforestydd glaw tymherus yn llechu ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Fel rhannau o’r Alban ac Iwerddon, mae gan yr ardal yng Ngogledd Cymru sy’n ffinio â Môr yr Iwerydd hinsawdd ryfeddol o fwyn o gymharu â gweddill Ynysoedd Prydain. Mae’r aer cynhesach hwn, ynghyd â glawiad cynyddol, wedi arwain at gynefin arbenigol o’r enw ‘fforest law Geltaidd’. Er bod gan y coetiroedd hynafol sydd i’w canfod yma dymheredd cyfartalog sylweddol is na fforestydd glaw yr Amazon neu’r Congo, gallant fod yn gartref i gennau a bryoffytau prin yn fyd-eang sy’n ffynnu mewn amodau gwlyb. Maent nid yn unig yn gynefin hanfodol i blanhigion is, ond hefyd mae rhai safleoedd penodol wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig i ystlumod, yn ogystal â bod yn ddelfrydol ar gyfer adar y coetir, fel telor y coed sy’n nythu ar y ddaear a’r fronfraith, sydd ar restr goch yr adar.