Bydd 2018 yn cael ei chofio fel y flwyddyn pryd gwnaeth y llygredd plastig yn ein moroedd ni dynnu sylw’r cyhoedd ar raddfa fawr. Mae’n broblem fyd-eang ac mae’n cael ei gweld yn aml fel un amhosib ei datrys, ond mae codi allan a helpu i gadw eich traeth lleol yn lân yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’r bywyd gwyllt sy’n ei alw’n gartref.
Y llynedd fe fuon ni’n gweithio gydag RSPCA Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus a Syrffwyr Yn Erbyn Carthffosiaeth i gynnal un o ddigwyddiadau cyhoeddus mwyaf poblogaidd y flwyddyn – sesiwn glanhau ar raddfa fawr ar y traethau o amgylch Porth Trecastell ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Mentrodd 150 o bobl allan yn y tywydd gaeafol i helpu i gael gwared ar fwy na hanner tunnell o sbwriel oddi ar dri thraeth gwahanol mewn dim ond 5 awr – a fis Ionawr eleni, rydyn ni eisiau gwneud y cyfan eto, ond ar raddfa lawer mwy!