Rydyn ni i gyd wedi gweld y broblem llygredd plastig eang ar gyfryngau cymdeithasol ac ar y teledu. Bob tro rydyn ni’n mynd ar y traeth, mae’r draethlin amryliw yn ein hatgoffa ni bod ein moroedd yn prysur lenwi gyda phlastig. Mae tua hanner y plastig sy’n cael ei greu bob blwyddyn yn blastig defnydd sengl – sy’n golygu hynny yn union: wedi’i gynllunio i gael ei ddefnyddio unwaith ac wedyn ei daflu. Ac er bod ein pencadlys ni’n lleoliad ar gyfer ailgylchu pecynnau byrbrydau, ein harwyddair ni bob amser ydi ‘Lleihau yn well nag Ailgylchu’ – mae llai o greision yn llesol i chi wedi’r cwbl!
Fis Gorffennaf eleni, am yr ail flwyddyn yn olynol, mae tîm o staff yma yn YNGC yn wynebu’r her o beidio â defnyddio unrhyw blastig defnydd sengl am fis cyfan – a byddwn yn rhannu cyngor doeth a’r newyddion diweddaraf am sut mae pethau’n mynd ar gyfryngau cymdeithasol! Byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno yn yr her – hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu gwneud heb ddim plastig, beth am herio’ch hun i leihau faint o blastig rydych chi’n ei ddefnyddio a dweud wrthyn ni sut brofiad ydi hynny?
Dilynwch ni a siarad gyda ni ar Facebook, Twitter ac Instagram – a defnyddio #GoPlasticFreeNW i ddweud wrthyn ni sut mae pethau’n mynd.