Parhau â’ch antur wyllt
Rydyn ni’n gobeithio eich bod wedi cael amser gwych yn ystod mis Mehefin, yn cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Er bod 30 Diwrnod Gwyllt wedi dod i ben, gobeithio bod y mis gwyllt wedi eich ysbrydoli chi i godi allan i’r awyr agored gymaint ag y gallwch chi drwy gydol y flwyddyn. Mae cymaint i’w weld drwy gydol y flwyddyn, ac mae ychydig bach o fyd natur bob dydd wir yn gwneud i chi deimlo’n hapusach ac yn iachach.
Os hoffech chi gael holl ddeunyddiau 30 Diwrnod Gwyllt, mae posib eu lawrlwytho o hyd.
Edrychwch yn nes i lawr y dudalen yma am lawer o ffyrdd i’ch helpu chi i gysylltu â bywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn!
Bywyd gwyllt a llefydd gwyllt!
Does dim prinder syniadau am ddiwrnod allan gwych gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru – mwy na 140 o deithiau cerdded, sgyrsiau a digwyddiadau bob blwyddyn.
Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru!
Gawsoch chi amser gwych yn cysylltu â bywyd gwyllt yn ystod mis Mehefin? Mae ymuno fel cefnogwr yn ffordd wych o ofalu am eich bywyd gwyllt lleol, ac mae gennym ni lond gwlad o syniadau ar gyfer bod yn wyllt drwy gydol y flwyddyn.
Troi eich mewnflwch yn un gwyllt!
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf am newyddion byd natur, digwyddiadau bywyd gwyllt a chynigion arbennig gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Diolch yn fawr!
Da iawn i bawb gymerodd ran yn 30 Diwrnod Gwyllt eleni! Oeddech chi’n gwybod bod mwy na 78,000 o deuluoedd, ysgolion a busnesau wedi cofrestru ledled y DU ...
• Cyfanswm o amcangyfrif o 400,000 o bobl wedi cymryd rhan
• Gyda’ch gilydd, fe wnaethoch chi gyflawni 10 MILIWN o Weithredoedd Gwyllt
• (mae hynny’n llawer iawn o weithredoedd bach dros fyd natur!)
• Defnyddiwyd #30DiwrnodGwyllt fwy na 100,000 o weithiau ar gyfryngau cymdeithasol
• A gobeithio eich bod yn teimlo’n hapusach, yn iachach ac yn fwy cysylltiedig â byd natur!
Gweithredu dros fywyd gwyllt!
Rydyn ni’n gwybod eich bod chi wrth eich bodd gyda bywyd gwyllt felly mae gennym ni lawer o syniadau i chi i helpu bywyd gwyllt yn eich ardal leol! Chwiliwch am ysbrydoliaeth a rhowch wybod i ni pa weithredoedd rydych chi wedi rhoi cynnig arnyn nhw.
Cofiwch rannu eich gweithgareddau gwyllt gyda ni gan ddefnyddio #365DiwrnodGwyllt
Beth yw Gweithred Wyllt?
Mae Gweithred Wyllt yn unrhyw beth y gallwch chi ei wneud fel rhan o’ch diwrnod arferol i gynnwys byd natur yn eich bywyd. Gall gymryd ychydig eiliadau, rhai munudau, neu os byddwch yn ymgolli’n llwyr, oriau! Mae gennym ni rai syniadau isod – ond gallwch chi feddwl am rai hefyd!