Mae Finn Jones, a ymunodd â phrosiect Ein Glannau Gwyllt y llynedd fel aelod o grŵp Addysgwyr Gartref Sir Ddinbych, wedi elwa’n fwy na’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc o gymryd rhan yn Ein Glannau Gwyllt. A dweud y gwir, mae Finn mor angerddol am hyn fel ei fod wedi ysgrifennu at ei AS yn ddiweddar, i ofyn i fwy o bobl ifanc gael cyfle i dreulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano.
“Mae fy ffitrwydd i, fy iechyd meddwl a fy hapusrwydd yn gyffredinol wedi elwa i gyd o fy amser yn gweithio gydag YNGC ac Our Bright Future ac rydw i’n meddwl y byddai pob plentyn, ac oedolion hyd yn oed, yn elwa o dreulio mwy o amser yn yr awyr agored. Rydw i wedi elwa cymaint o weithio ym myd natur ac yn yr amgylchedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rydw i’n meddwl bod hoffter iach o fyd natur yn llesol iawn i unrhyw unigolyn. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd, gwneud pethau newydd a chael cyfleoedd na fyddwn i fyth wedi’u cael fel arall.”
Ar ôl i AS Finn, sef Chris Ruane (Dyffryn Clwyd), dderbyn y llythyr, roedd wedi gwneud cymaint o argraff arno fel ei fod wedi ei anfon ymlaen yn syth at Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg ar gyfer Cymru – ac roedden ni wrth ein bodd pan anfonodd ei hateb yn ôl. Yn ei llythyr, mae hi’n dweud bod Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i fwy o gyfleoedd dysgu awyr agored i bobl ifanc. Cadarnhaodd y byddai mwy o gyfle i ysgolion a cholegau ddarparu gwell mynediad at ddysgu yn yr awyr agored fel rhan o’r cwricwlwm newydd (sydd i gael ei ehangu ar gyfer pob oedran erbyn 2026), ond hefyd pwysleisiodd mai ysgolion unigol sy’n penderfynu faint o ddysgu awyr agored maen nhw’n dymuno ei gynnig.
Gan feddwl am hyn, ysgrifennodd Finn lythyr arall – y tro yma at holl ysgolion a cholegau arfordir Gogledd Cymru – yn dweud wrthyn nhw am y llythyr gan y Gweinidog ac yn gofyn iddyn nhw i gyd annog eu hathrawon i dreulio o leiaf un awr yn addysgu yn yr awyr agored ar 7fed Tachwedd, fel rhan o’r Diwrnod Dosbarth Awyr Agored. Rydyn ni’n gobeithio y bydd o leiaf rhai ysgolion yn cynllunio gweithgareddau awyr agored ar y diwrnod ac yn eu rhannu nhw gyda ni, ond rydyn ni eisiau eich help chi hefyd! Os ydych chi’n mynd i ysgol uwchradd neu goleg yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd, beth am sôn am y Diwrnod Dosbarth Awyr Agored wrth eich tiwtor dosbarth neu efallai’r athro sy’n hoff o’r awyr agored. Ewch ati i’w hannog i ymuno yn yr hwyl ac wedyn rhannu eich gweithgareddau gan ddefnyddio #DiwrnodDosbarthAwyrAgored ac @OBrightFuture.
Neu, os ydych chi’n teimlo’n frwd iawn, fe allech chi ysgrifennu at eich AS – yn union fel y gwnaeth Finn. Pwy a ŵyr pa mor bell fyddai’r llythyr hwnnw’n teithio ...