Gweithredoedd ar gyfer pryfed

Silver-studded blue butterfly

Silver-studded blue butterfly © Linda Pitkin

Gwrthdroi’r apocalypse pryfed

Rydyn ni’n dyst i’r difodiant mwyaf ar y Ddaear ers y deinosoriaid

Mae 41% o’r rhywogaethau o bryfed yn wynebu difodiant. Mae pryfed yn diflannu hyd at 8 gwaith yn gyflymach nag anifeiliaid mwy. 

Mae hwn yn achos pryder difrifol – i ni, yn ogystal ag i fywyd gwyllt. Mae pryfed yn peillio tri chwarter ein cnydau bwyd ni a dyma’r brif ffynhonnell o fwyd ar gyfer llawer o adar, mamaliaid bychain a physgod.

Mae colli cynefinoedd a gorddefnydd o blaladdwyr yn ddau brif achos y trychineb yma sydd ar y gorwel. Ond nid yw’n rhy hwyr i weithredu. Gall poblogaethau o bryfed adfer ac rydyn ni’n gwybod beth sydd angen ei wneud i’w hachub nhw.

Gyda’n gilydd, gallwn greu Dyfodol Gwyllt i bryfed.

Bumblebee on dandelion

Bumblebee on dandelion © Katrina Martin / 2020VISION

Dau gam gweithredu a fydd yn gwneud byd o wahaniaeth:

1. STOPIO lladd pryfed drwy leihau eich defnydd o blaladdwyr lle rydych chi’n byw ac yn gweithio 

 

2.  DECHRAU creu cynefinoedd mwy cyfeillgar i bryfed yn eich gardd a’ch cymuned leol 

Grow your own mini meadow garden_Activity Sheet_Cymraeg

Tyfu eich dôl fechan eich hun yn yr ardd

Llawrlwythwch eich taflen
Wildflower meadow on the Wrexham Industrial Estate Living Landscape project

Wildflower meadow on the Wrexham Industrial Estate Living Landscape project © Mark Greenhough

Gwirfoddolwch hoffom ni

Ymunwch â gwirfoddolwyr eraill a helpu i greu cynefinoedd cyfeillgar i bryfed yn eich ardal chi!

Bod yn wirfoddolwr

Diriwiant Pryfetach a Pam eu bod yn Bwysig

Mae’r adroddiad hwn, gan yr Athro Dave Goulson, yn crynhoi rhywfaint o’r dystiolaeth orau sydd ar gael am ddirywiad pryfed ac mae’n cynnig cyfres gynhwysfawr o gamau gweithredu y gellir eu rhoi ar waith ar bob lefel mewn cymdeithas er mwyn adfer eu hamrywiaeth a’u niferoedd.

Worker European honey bees

Worker European honey bees (Apis mellifera) on honeycomb © Chris Gomersall/2020VISION

Diriwiant Pryfetach a Pam eu bod yn Bwysig

Gwneud gwahaniaeth heddiw ...

Rydyn ni eisiau gweld Rhwydwaith Adfer Natur yn rhan o’r gyfraith fel bod gan fyd natur fwy o lefydd gwyllt sy’n fwy ac wedi’u cysylltu’n well. Drwy greu ‘llecynnau pryfed’ yn eich gardd i ddenu pryfed, bydd eich ardal wyllt yn dod yn rhan o’r darlun mwy – byd naturiol cysylltiedig lle gall bywyd gwyllt ffynnu. Gwyliwch ein ffilm fer Wilder Future gyda Syr David Attenborough yn esbonio pwysigrwydd Rhwydweithiau Adfer Natur.

The Wildlife Trusts play a very important part in protecting our natural heritage. I would encourage anyone who cares about wildlife to join them
Syr David Attenborough