Mae miloedd o bobl wedi bod yn galw ar wleidyddion i sefyll dros fyd natur ac mae’r etholiad yma’n gyfle i dynnu mwy o sylw at hynny. Er bod gan Lywodraeth y DU lai o bŵer dros yr amgylchedd yma yng Nghymru, fe allwn ni i gyd barhau i annog y pleidiau a’u hymgeiswyr i weithredu i helpu i newid pethau ledled y DU a thu hwnt.
Yn fwy na hynny, mae’r momentwm dros newid yn cynyddu. Dangosodd pôl diweddar gan YouGov bod dwy ran o dair o bobl yn cytuno mai’r amgylchedd ac argyfwng yr hinsawdd yw’r broblem fwyaf sy’n wynebu’r ddynoliaeth a dywedodd mwy na hanner (54%) y byddai’n effeithio ar sut byddant yn pleidleisio yn yr etholiad sydd i ddod.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cysylltu â’r ymgeiswyr seneddol ac yn gofyn iddynt ymrwymo i fesurau uchelgeisiol a fydd yn gwarantu adferiad bywyd gwyllt drwy sicrhau bod y polisïau canlynol wrth galon maniffesto eu plaid:
- Ymrwymiad i gyflwyno’r deddfau amgylcheddol newydd uchelgeisiol sy’n gosod byd natur wrth galon gwaith Llywodraeth y DU, gyda thargedau sy’n rhwymo’n gyfreithiol ar gyfer byd natur a chreu Rhwydwaith Adfer Natur i greu ac adfer cynefinoedd.
- Cyflwyno polisïau newydd cynaliadwy sy’n cefnogi rheolwyr tir a ffermwyr i gyflawni manteision cyhoeddus eang, gan gynnwys byd natur cyforiog ac ecosystemau cadarn, priddoedd iach, dŵr glân a lliniaru newid hinsawdd.
Datblygu Strategaeth Forol newydd yn Lloegr a gweithredu Ardaloedd Morol Gwarchodaeth Uchel i adfywio ein moroedd ni.