Byddem wrth ein bodd yn clywed eich straeon chi am sut mae cymryd rhan yn y prosiect yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf wedi effeithio arnoch chi neu’r bobl ifanc yn eich gofal. Nid yn unig maen nhw’n ein hysbrydoli ni, ond hefyd maen nhw’n darparu tystiolaeth bwysig bod y math yma o weithgareddau’n cael eu gwerthfawrogi gan y bobl ifanc sy’n cymryd rhan, ac o fudd nid yn unig i’r amgylchedd naturiol, ond hefyd i iechyd a lles y cyfranogwyr a’u teuluoedd. Yn anffodus, mae’r cyllid ar gyfer Ein Glannau Gwyllt yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf, ond rydyn ni i gyd yma yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio cynnal y gwaith ieuenctid y tu hwnt i’r pwynt yma. Mae eich straeon a’ch tystiolaeth chi’n eithriadol bwysig i’n helpu ni i wneud hynny, felly os oes gennych chi unrhyw beth yr hoffech ei rannu am y prosiect a sut mae wedi helpu neu fod o fudd i chi neu eich mab neu eich merch, cofiwch rannu hynny gyda ni. Gallwch anfon unrhyw adborth neu straeon at Chris Baker (Rheolwr y Prosiect) ar chris.baker@northwaleswildlifetrust.org.uk).