Yn aml iawn mae’n llai apelgar mynd allan i’r awyr agored yr adeg yma o’r flwyddyn. Does dim cymaint o oriau o olau dydd ac mae’r tywydd yn gallu bod yn oer, gwlyb a gwyntog. Felly mae’n hawdd gwneud esgusodion dros aros dan do. Mae ein grwpiau Glannau Gwyllt yn mynd allan ym mhob tywydd ac yn elwa o hynny a dyma gyngor doeth y Swyddog Prosiect, Charlotte, ar gyfer manteisio i’r eithaf ar y tymor yma.
Os allwch chi fynd allan i’r awyr agored yr adeg yma o’r flwyddyn (os yw’n bwrw glaw - gwisgwch gôt law, os yw’n oer iawn – lapiwch yn gynnes, os yw’n dywyll – ewch â fflachlamp gyda chi!), ’fyddwch chi ddim yn difaru. Dyma rai syniadau i’ch cael chi allan i’r awyr agored a mwynhau byd natur yr adeg yma o’r flwyddyn.
- Mae codiad a machlud yr haul ar amser synhwyrol yn ystod y gaeaf ... does dim rhaid i chi ddeffro’n rhy gynnar nac aros ar eich traed yn rhy hwyr. Chwiliwch am olygfa dda o’r Dwyrain ar gyfer codiad haul, neu’r Gorllewin ar gyfer machlud haul, ac ar ddiwrnod cymylog fe all gwylio’r golau’n newid fod yn rhyfeddol.
- Ewch am dro gyda’r nos (neu ddim ond sefyll yn yr ardd yn y tywyllwch!). Mae’n amser grêt o’r flwyddyn i wrando am dylluanod brech. Mae’r benywod yn gwneud sŵn “twit” neu “ciwic” a’r gwrywod yn gwneud sŵn “whŵ”.
- Mewn tywydd stormus, mae llawer o bethau diddorol yn cael eu golchi ar draethau. Ewch am dro i’ch traeth lleol i weld beth sydd wedi ymddangos, ac fe allech chi fynd â menig a bag bin gyda chi i gasglu sbwriel. Tra rydych chi yno, anadlwch yn ddwfn iawn i gael awyr iach y môr yn eich ysgyfaint!
- Am dro i’r coed – edrychwch i fyny ar y coed pan nad oes dail arnyn nhw a’u gwylio’n siglo yn y gwynt, mae’n haws gweld y bywyd gwyllt yr adeg yma o’r flwyddyn gan fod llai o ddail iddyn nhw guddio ynddyn nhw.
- Rhowch declyn bwydo adar yn eich gardd fel bod posib i chi adael byd natur i mewn atoch chi os ydych chi wir ddim eisiau mynd allan. Eisteddwch dan do a gwylio’r adar yn ymweld â’ch teclyn bwydo. Does dim llawer o fwyd ar gyfer adar yr adeg yma o’r flwyddyn felly fe fyddwch chi’n gweithredu’n bositif dros fyd natur hefyd.