Bydd ymwelwyr rheolaidd â Gwarchodfa Natur Big Pool Wood wedi sylwi bod y llwybr troed o amgylch ochr bellaf y pwll wedi mynd yn llawer mwy mwdlyd. Mae wedi bod yn amhosibl cerdded arno yn aml yn ystod y gaeaf heb welingtyns – a fawr ddim gwell yn ystod yr haf! Doedden ni ddim yn siŵr pam oedd hyn yn digwydd, neu hyd yn oed ai ni oedd ar fai ein hunain – gallai unrhyw beth o newid yn yr hinsawdd i gynyddu nifer yr ymwelwyr neu glirio helyg ymledol allan o’r pwll fod wedi cyfrannu. Beth bynnag oedd y rheswm, daeth yn amlwg y byddai’n rhaid gwneud rhywbeth, yn enwedig gan ei fod wedi bod yn uchelgais hirdymor gan yr Ymddiriedolaeth Natur i wneud y ddolen gyfan o amgylch y pwll yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.
Nawr, diolch i gyllid o Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr a Chronfa Cymuned Ymestynnol Banc Burbo, rydyn ni’n cymryd cam enfawr ymlaen. Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn yn cwblhau darn 70m o lwybr pren newydd sbon (ar ben pyst wedi’u gwneud yn lleol o blastig wedi’i ailgylchu) ac yn uwchraddio 350m arall o’r llwybr gydag arwynebau cadarn a llefydd pasio; yn ogystal â gosod ramp i un o’r cuddfannau a llwyfan archwilio pwll – am welliant! Bydd llawer o’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau cyn diwedd mis Mawrth, gyda’r holl waith sy’n tarfu wedi’i drefnu cyn dechrau tymor nythu’r adar!