Mae Sefyll dros Natur Cymru yn brosiect newid hinsawdd ieuenctid cenedlaethol gydag uchelgais mawr!
Mae’r pum Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yng Nghymru yn ymuno i ysgogi pobl ifanc i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol yn uniongyrchol. Rydym yn gweithio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i weithredu dros natur a'r hinsawdd yn eu cymunedau lleol mewn ymdrech i leihau eu heffaith amgylcheddol ar y cyd. O Gaerdydd drefol i Ynys Môn wledig, mae pobl ifanc yn sefyll dros natur a sicrhau dyfodol gwyrddach, ac rydym eisio chi i ymuno â ni!
Mae'r prosiect wedi bod yn bosibl diolch i 'Gronfa Gweithredu Hinsawdd' y Loteri Genedlaethol, sef cronfa ddeng mlynedd gwerth £100 miliwn sy'n cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
Yma yng Ngogledd Cymru rydym yn gweithio ar Ynys Môn, yn cefnogi ac yn ehangu fforwm amgylcheddol a arweinir gan bobl ifanc ac yn cysylltu ag ysgolion lleol, busnesau, sefydliadau sector cyhoeddus, elusennau a grwpiau cymunedol llawr gwlad i helpu i wella seilwaith gwyrdd a hyrwyddo cynaliadwyedd ar yr ynys.
O Borth Swtan i Landdwyn, a Phorth Dafarch i Lligwy bydd ein pobl ifanc anhygoel yn cynnal ymgyrchoedd a phrosiectau ar draws Ynys Môn. Mae’r holl weithgareddau’n cael eu harwain yn gyfan gwbl gan bobl ifanc a byddant yn cael eu hwyluso gan ein tîm ymgysylltu a datblygu ieuenctid ymroddedig.