Sut gallwch chi helpu
Unwaith rydych wedi gofalu am eich anwyliaid, efallai y byddech angen gadael rhodd yn eich Ewyllys i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gan ddefnyddio eich cyfreithiwr dewisedig. Hyd yn oed os ydych yn ysgrifennu Ewyllys newydd neu yn ychwanegu Atodiad, fe ddylid hyn fod yn broses reit syml i’ch cyfreithiwr gan ddefnyddio’r manylion is-law:
Fe allwch ddefnyddio cyfreithiwr eich hyn, gofyn i berthynas neu ffrind i awgrymu un neu drwy ddefnyddio gwasanaeth y “Law Society” sef “Find a Solicitor”. Os hoffech siarad hefo ni gyntaf, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Mike Flaherty os gwelwch yn dda i drefnu trafodaeth hollol gyfrinachol. Os hoffech rydym hefyd wedi ffurfio nifer o bartneriaethau i’n galluogi ein cefnogwyr ysgrifennu eu Ewyllysiau am ddim – heb unrhyw orfodaeth pa beth bynnag.
Mae rhoddion mewn Ewyllysiau’n allweddol i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol – gan wneud yn siŵr ei fod yn llawn bywyd gwyllt a bod pobl yng Ngogledd Cymru’n deall pam mae hyn mor bwysig. Mae’n braf gwybod y byddai tua 35% o bobl yn y DU yn ystyried gadael rhodd i elusen. Fodd bynnag, er gwaetha’r bwriadau da hyn, mae ymchwil yn awgrymu mai dim ond tua 6% o bobl sydd wedi gadael rhodd i achosion da.
Rydyn ni’n gwybod y gwahaniaeth y gallai cau’r bwlch hwnnw rhwng 6% a 35% ei wneud i fywyd gwyllt yn lleol. Mae ewyllysiau eisoes yn gwneud pethau gwych – yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi ein helpu ni i reoli gwarchodfeydd natur, gwarchod rhywogaethau unigol, achub safleoedd bywyd gwyllt a helpu plant ysgol i wneud gerddi bywyd gwyllt hardd – ond mae’n amlwg bod llawer mwy y gellid ei wneud.