Sut i adnabod gwenoliaid duon, gwenoliaid cyffredin, gwenoliaid y glennydd a gwenoliaid y bondo
Ydych chi wedi gweld silwetau hardd yn gwibio ac yn deifio yn awyr yr haf? Mae gwenoliaid duon, gwenoliaid cyffredin, gwenoliaid y bondo a gwenoliaid y glennydd yn ymwelwyr haf â’r DU. Tra mae’r gwenoliaid duon yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser fry yn uchel yn yr awyr, efallai y gwelwch chi’r wennol gyffredin neu'r 'wennol sgubor' yn gorffwys ar wifren, neu'n clwydo mewn gwely cyrs. Dyma ein hawgrymiadau gwych i benderfynu pa un y gallech fod wedi ei gweld!
Sut i adnabod gwenoliaid duon
Mae'r wennol ddu yn frown tywyll drosti, ac yn ymddangos yn ddu yn erbyn yr awyr yn aml, gyda darn bach golau ar ei gwddw. Mae gwenoliaid duon yn fwy na gwenoliaid cyffredin a gwenoliaid y bondo a’r glennydd, gydag adenydd crwm hir sy'n gwneud iddyn nhw edrych ychydig fel bwmerang yn yr awyr. Mae gwenoliaid duon yn gymdeithasol iawn a gellir eu gweld yn aml mewn heidiau yn gwibio dros doeau ac yn galw ar ei gilydd gyda sgrechiadau uchel, main. Yn wahanol i wenoliaid cyffredin a gwenoliaid y bondo a’r glennydd, dydi gwenoliaid duon prin byth yn clwydo. Maen nhw'n treulio'r rhan fwyaf o'u bywydau yn hedfan - hyd yn oed cysgu, bwyta ac yfed yn yr awyr – gan lanio i nythu yn unig.
Y nodweddion allweddol i wahaniaethu rhwng gwennol ddu a gwennol gyffredin neu wennol y bondo yw'r ochr isaf dywyll (mae gan wenoliaid cyffredin a gwenoliaid y bondo a’r glennydd fol golau), yr adenydd hirach a’r gri sgrechian.
Sut i adnabod gwenoliaid cyffredin
Mae'r wennol gyffredin yn aderyn glasddu, tywyll, sgleiniog ar y cefn a gwyn hufennog oddi tanodd, gyda thalcen a gwddw coch tywyll, wedi'i ffinio gan fand glasddu ar draws top y fron. Gall fod yn anodd gweld y coch o bell, pan fydd y pen cyfan yn ymddangos yn dywyll. Mae ganddi gynffon hir iawn, gyda fforch ddofn. Fel mae ei henw llawn – gwennol y sgubor - yn awgrymu, maent i’w gweld yn aml o amgylch tir fferm a phentrefi bach, lle maent yn nythu mewn adeiladau allanol. Mae gwenoliaid cyffredin yn clwydo ar wifrau yn aml mewn niferoedd bach, neu mewn heidiau mwy wrth iddynt baratoi i fudo. Pan nad ydynt yn magu, gallant glwydo mewn niferoedd enfawr mewn gwelyau cyrs. Mae ganddyn nhw gri sgwrsio sy'n aml yn datgelu pa adar ydynt cyn i chi eu gweld.
Y nodweddion allweddol i chwilio amdanynt yw'r gynffon hir fforchiog, yr ochr isaf sy’n olau a'r gwddw a'r wyneb tywyll yr olwg.
Sut i adnabod gwenoliaid y bondo
Mae gwennol y bondo yn ddu sgleiniog ar ei chefn, ac yn gwbl wyn oddi tani, ac mae ganddi ben ôl gwyn a chynffon fforchiog, fer. Fel mae’r enw’n awgrymu, mae gwennol y bondo i’w gweld o amgylch ein trefi a’n pentrefi, lle mae’n adeiladu nyth sy’n edrych fel cwpan mwd o dan fondoeau tai. Yn aml gellir eu gweld yn ymweld â phyllau bach i gasglu'r mwd maent yn ei ddefnyddio i adeiladu eu nythod trawiadol.
Y nodweddion allweddol i chwilio amdanynt yw'r pen ôl gwyn a'r gwyn i gyd oddi tanodd, heb fand tywyll ar draws y fron.
Sut i adnabod gwenoliaid y glennydd
Yr aelod lleiaf o deulu’r gwenoliaid. Mae gwenoliaid y glennydd yn frown ar y cefn ac yn wyn oddi tanodd, gyda band brown ar draws ei bron a chynffon fforchiog, fer. Mae gwenoliaid y bondo a gwenoliaid cyffredin yn lasddu sgleiniog ar y cefn ac nid oes ganddynt y band ar y fron. Mae gwenoliaid y glennydd yn nythu mewn tyllau, sy’n cael eu cloddio fel arfer mewn cloddiau tywodlyd. Maent yn nythu mewn poblogaethau, gyda llawer o barau yn nythu'n agos at ei gilydd mewn safleoedd addas. Maent i’w gweld yn aml dros ddŵr, ac mae llawer o warchodfeydd natur gwlybdir wedi adeiladu cloddiau nythu arbennig i roi cartref iddynt.
Y nodweddion allweddol i chwilio amdanynt yw'r rhannau uchaf brown i gyd a'r band tywyll ar draws y fron, yn gwahanu'r gwddw gwyn oddi wrth y bol gwyn.