Mae ein byd naturiol mewn helynt
Dydi hyn ddim yn gyfrinach. Mae bywyd gwyllt yn diflannu ar raddfa frawychus - mae rhai yn cyfeirio at hyn fel y difodiant torfol nesaf - ac mae bygythiad trychineb yr hinsawdd yn bryder cyson. Rydyn ni'n byw mewn cyfnod o argyfwng.
Mae gobaith o hyd - gallwn fynd i'r afael â'r ddau fater hanfodol yma - ond mae'n rhaid i ni weithredu nawr. Mae amser yn prinhau.
Beth sydd angen digwydd?
Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw am gysylltu a diogelu o leiaf 30% o'n tir a'n môr ar gyfer adferiad natur erbyn 2030. Bydd gwneud mwy o le i fyd natur fod yn gyforiog unwaith eto yn rhoi cyfle i'n bywyd gwyllt dan fygythiad adfer a hefyd adfer llefydd gwyllt hardd - llefydd sy'n storio carbon ac yn helpu i fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd.
30% yw'r isafswm y mae natur ei angen i ddechrau adfer ond rydym yn bell o gyrraedd hyn ac mae angen eich help chi arnom ni i newid pethau ...
Helpwch ni i adfer 30% o fyd natur erbyn 2030
Fe allwn ni wneud hyn gyda’n gilydd
Drwy ymuno â'n cenhadaeth ar gyfer adferiad natur, byddwch yn gwneud byd o wahaniaeth i fywyd gwyllt a'n byd naturiol. Bydd pob punt fydd yn cael ei chyfrannu yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwyllt. Gyda'n gilydd gallwn adfer mawndiroedd enfawr, sy'n storio carbon ac yn dod yn gartref i adar sydd dan fygythiad fel y gylfinir a’r cwtiad aur. Byddwn yn creu gwlybdiroedd newydd, sy'n lleihau'r risg y bydd trefi a phentrefi yn gorlifo ac sydd hefyd yn wych ar gyfer gweision y neidr a llygod pengrwn y dŵr. Byddwn yn plannu dolydd morwellt tanddwr newydd i amsugno carbon a chysgodi ceffylau môr a bywyd môr arall. Mae natur wedi rhoi cymaint i ni, ein tro ni nawr yw rhoi yn ôl.
Mae eich cefnogaeth yn cyfrannu llawer
Mae gan yr Ymddiriedolaethau Natur gynlluniau mawr ar gyfer adferiad natur. Dyma gipolwg bach ar rai o'n cynlluniau, yr ydym yn gobeithio eu gwireddu gyda'ch cefnogaeth chi ...
Gwarchod y bywyd gwyllt rydych chi’n ei garu
Gwnewch 2023 yn flwyddyn grêt i chi ac i’r bywyd gwyllt dan fygythiad rydych chi’n ei garu yng Ngogledd Cymru. Ymunwch heddiw o £3 y mis a dod yn arwr bywyd gwyllt …
Cost ymaelodi yw llai na 10c y diwrnod er mwyn ymuno â ni a’r 9,500+ aelod sydd yma yng Ngogledd Cymru.
Cymrwch ran yn y gwahanol weithgareddau, ymwelwch â 35 o warchodfeydd gwych a chael mynediad i dros 140 o ddigwyddiadau tra’n teimlo’n braf gan wybod y bo chi yn cyfrannu’n unol i warchod bywyd gwyllt bregus ar draws Ogledd Cymru.