Managing ash dieback on NWWT nature reserves

Ash leaves

Ash leave_Mark Hamblin2020Vision

Rheoli gwywiad yr onnen yng ngwarchodfeydd natur YNGC

Mae gwywiad yr onnen wedi lledaenu’n gyflym iawn yng nghefn gwlad Cymru ac mae bellach wedi effeithio ar holl warchodfeydd natur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sydd â choed ynn yn bresennol ynddynt.
 

Yr Her

Wedi’i gadarnhau yn y DU yn 2012 i ddechrau, mae gwywiad yr onnen, sy’n cael ei adnabod hefyd fel ‘Chalara’ neu wywiad yr onnen Chalara, yn glefyd ar goed ynn a achosir gan y ffwng Hymenoscyphus fraxineus.

Mae’r clefyd hwn wedi lledaenu’n gyflym ac mae bellach yn effeithio ar goetiroedd ledled y DU, gan arwain at farwolaeth miloedd o goed. Mae eisoes wedi achosi difrod eang ar gyfandir Ewrop. Mae gwywiad yr onnen wedi lledaenu'n gyflym drwy gefn gwlad Cymru ac mae bellach wedi effeithio ar holl warchodfeydd natur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (NWWT) sydd â choed ynn yn bresennol ynddynt. 

Beth yw gwywiad yr onnen?

Clefyd sy'n effeithio ar goed ynn yw gwywiad yr onnen, a achosir gan ffwng o'r enw Hymenoscyphus fraxineus. Mae gan y ffwng ddau gam i’w gylch bywyd – cam rhywiol, sy’n helpu’r ffwng i ledaenu, a cham anrhywiol, sef yr hyn sy’n tyfu ar y goeden ac yn achosi difrod. Mae'r ffwng yn rhwystro cludo dŵr yn y goeden, gan arwain at doriadau ar y rhisgl, colli dail a gwywiad y corun.

Credir bod ffwng gwywiad yr onnen wedi tarddu o Asia. Fe'i darganfuwyd gyntaf yn Ewrop yng Ngwlad Pwyl yn 1992, ac mae bellach i'w ganfod yn eang ar draws y cyfandir. Daeth yr achos cyntaf i’w gadarnhau yn y DU i’r amlwg yn 2012, ac ers hynny mae wedi lledaenu ar draws Lloegr ac i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw.

Mae rhagor o wybodaeth am symptomau ac arwyddion y clefyd ar gael yma

Beth yw’r effaith ar warchodfeydd natur YNGC?

Yr onnen yw un o’n rhywogaethau mwyaf cyffredin o goed yng Nghymru ac mae gennym ni goed ynn yn llawer o’n gwarchodfeydd natur. Mae gan rai o'n safleoedd ni sydd ar galchfaen (fel Ddôl Uchaf) ganopïau coetir sy'n cynnwys llawer o goed ynn. Mae gan lawer o safleoedd coetir cymysg eraill (fel yng Nghoed y Felin) rai coed ynn sylweddol. Ar ein safleoedd glaswelltir gall ynn fod yn elfen allweddol yn aml o wrychoedd lle gall coed unigol fod yn nodweddion tirwedd arwyddocaol.

Ers 2019, mae tîm gwarchodfeydd YNGC wedi ymweld â phob un o’n gwarchodfeydd natur i arolygu a monitro ein coed ynn ac amlder gwywiad yr onnen. Rydym wedi rhoi sylw arbennig lle mae perygl posibl i bobl, yn fwyaf nodedig ger tai, llwybrau troed a ffyrdd. Erbyn 2021, roeddem yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y coed ynn gyda llai na hanner canopi’r goeden yn iach. Mewn geiriau eraill, mae gennym ni broblem sylweddol iawn yn datblygu, gyda choed marw a choed sy’n marw mewn lleoliadau a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar ddiogelwch pobl gyda goblygiadau hirdymor posibl i fywyd gwyllt ein coetir.

Beth nesaf?

Fel rhan o brosiect coetir mawr a wnaed yn bosibl gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu penodi ymgynghorwyr coetir arbenigol i ddarparu cyngor ac arweiniad pellach ar sut rydym yn ymateb i her gwywiad yr onnen yn ein coetiroedd.  

Yn hydref 2021, fe wnaethom ddechrau ar y gwaith o gael gwared ar goed wedi’u heintio – rhaid rhoi sylw i goed o’r fath yn gynnar gan eu bod yn datblygu i fod yn beryglus iawn i’w cwympo wrth i’r haint ledu a lladd y goeden. Mewn coetiroedd mwy efallai y bydd yn bosibl gadael rhai coed fel pren marw sy'n dal i sefyll lle nad yw materion diogelwch yn peri pryder. Byddwn hefyd yn chwilio am gyfleoedd ar gyfer gwaith rheoli cadarnhaol er budd rhywogaethau coetir.

O dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, byddwn yn caniatáu aildyfiant naturiol i gymryd lle coed coll. Fodd bynnag, byddwn yn monitro ac yn gwerthuso effaith colli coed ynn yn ofalus ac yn ystyried plannu ategol pan fo hynny'n briodol. 

Beth allwch chi ei wneud

  • Parchu arwyddion a chau llwybrau a gwarchodfeydd ac annog eraill i wneud yr un peth. Maent yno er eich diogelwch ac yn seiliedig ar archwiliad manwl.
  • Edrych ar ein gwefan cyn gadael y tŷ am unrhyw ddiweddariadau am gau ardaloedd mewn gwarchodfeydd natur.
  • Ystyried dod yn aelod o'r Ymddiriedolaeth Natur neu wneud cyfraniad untro at ein gwaith. Mae’r galw am waith diogelwch hanfodol ar goed yn mynd i gostio miloedd lawer o bunnoedd i YNGC – arian y byddai’n well gennym ni ei ddefnyddio ar gyfer cadwraeth anninistriol! Mae pob ceiniog yn helpu, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus rydym yn ei chael.

Mae rhagor o wybodaeth am wywiad yr onnen ar gael ar y wefan Ymchwil Coedwigaeth. Ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â gwarchodfeydd natur YNGC, cysylltwch â ni ar info@northwaleswildlifetrust.org.uk