Mae gan Brosiect Rheoli Rhywogaethau Estron Ymledol Pen Uchaf a Chanol y Ddyfrdwy gyrsiau am ddim a fydd yn rhoi’r holl sgiliau sydd arnoch eu hangen i fynd i’r afael ag un o’r bygythiadau mwyaf i’n cefn gwlad - Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS).
Yn eisiau – Hyrwyddwyr Bywyd Gwyllt Afonydd
Ydych chi eisiau bod yn Hyrwyddwr Bywyd Gwyllt Afonydd? Ydych chi'n byw ger Afon Dyfrdwy rhwng Corwen a'r Bont Newydd, yn ardal Sir Ddinbych?
16eg a 17eg Mawrth 9:00-17:00 - Hyfforddiant plaladdwyr gan Greenscope.
Cyfle i ennill cymhwyster achrededig Lantra mewn defnyddio plaladdwyr yn ddiogel.
Mae’r llefydd yn gyfyngedig. Cysylltwch â Gemma.Rose@northwaleswildlifetrust.org.uk erbyn 12yh ar Mawrth 3ydd i sicrhau eich lle.
Bydd yr holl hyfforddiant yn digwydd yn TNR Outdoors, Mile End Mill, Ffordd Berwyn, Llangollen, LL20 8AD. Darperir diodydd poeth, dewch â phecyn bwyd gyda chi.
![SMS NNF](/sites/default/files/styles/scaled_default/public/2022-08/Black%20-%20Lottery%20and%20Welsh%20Gov%20partner%20PNG%20logo.png?itok=av4SKvaD)