Beth yw Prosiect Siarc?
O ledaenu ymwybyddiaeth o’n siarcod lleol anhygoel, i lenwi’r bylchau yn ein dealltwriaeth o elasmobranciaid (neu siarcod, morgathod a garwbysgod i chi a fi!) o Gymru, mae Prosiect SIARC yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng cymunedau, ymchwilwyr, pysgotwyr a’r llywodraeth.
Dewiswyd chwech siarc fel prif rywogaethau’r prosiect:
1. Maelgi, 2. Morgath Ddu, 3. Ci Pigog, 4. Ci Glas,
5. Morgath Drwynfain, 6. Morgath Las
Sut mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cymryd rhan?
Fel partneriaid Prosiect SIARC, rydym wedi arwain ar weithgareddau gwyddor dinasyddion yng Ngogledd Cymru trwy gydol dau gam o’r prosiect hyd yn hyn...
Cam 1: Digwyddiadau 'Helfa Casys Wyau' gyhoeddus ac ymchwil archifol hanesyddol
Cam 2: Hyfforddi Hyrwyddwyr Casys Wyau i 'fabwysiadu' a monitro casys wyau ar hyd eu traethau lleol yn rheolaidd
Yr Helfeydd Casys Wyau Mawr
Mae ein cyfres o helfeydd casys wyau siarcod poblogaidd yn cynnig cyfle unigryw i archwilio’r traeth i chwilio am y trysorau naturiol rhyfeddol yma!
Maen nhw’n cael eu galw hefyd yn byrsiau’r fôr-forwyn, ac mae wyau siarcod gwag yn cael eu golchi ar ein traethau lleol, gan gynnig syniad i ni o ba rywogaeth o siarc sydd gennym yn byw ac yn magu allan ar y môr!
Monitro Casys Wyau Siarc Mawr
Ydych chi erioed wedi meddwl pam y gellir dod o hyd i wyau siarc gwahanol ar hyd gwahanol draethau, ar wahanol adegau o'r flwyddyn? Helpwch ni i ddeall arfordir Cymru yn well drwy 'fabwysiadu' traeth lleol a chasglu, cofnodi a monitro casys wyau siarc yn rheolaidd.
Cysylltwch â ni yn uniongyrchol ynglŷn â dewis eich traeth. Dewch i ni ddarganfod pa siarcod sy'n byw agosaf atoch chi!
Cymryd rhan gyda Gwyddoniaeth y Dinesydd!
Ydych chi eisiau ymuno â'n hymdrechion a dod yn ddinesydd wyddonydd Prosiect SIARC?
Ewch i'n tudalen digwyddiadau i archebu lle yn ein ‘Helfeydd Casys Wyau Mawr’ sydd ar ddod, neu gynnig eich amser fel gwirfoddolwr Pencampwr Wyau rheolaidd trwy e-bostio Dawn (ein Swyddog Prosiect) ar dawn.thomas@northwaleswildlifetrust.org.uk