Mae pobl yn allweddol i adferiad byd natur
Rydyn ni’n gweithio gyda chymunedau ar draws y rhanbarth i wella gofod sy’n cael ei rannu ar gyfer bywyd gwyllt a dod â phobl yn nes at natur. Rydyn ni’n ymdrechu i gysylltu pobl â gofod naturiol a chefnogi cymunedau i greu llefydd gwyllt diogel, cynhwysol yn agos at ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.
Mae llawer o bobl yn methu â chael mynediad i lefydd gwyllt yn agos at eu cartrefi. Yn rhy aml, mae hyn yn gysylltiedig â phroblemau sylfaenol mewn cymdeithas, fel gwahaniaethu, braint neu ormes. Rydyn ni’n gweithio i ddeall yn well y rhwystrau sy’n bodoli rhwng unigolion, cymunedau a’r byd naturiol; gan geisio grymuso pobl o bob hunaniaeth, diwylliant, cefndir a gallu i werthfawrogi, mwynhau, codi llais a gweithredu dros fywyd gwyllt.
No one will protect what they don’t care about; and no one will care about what they have never experienced.
Cymunedau’n dangos arweiniad
Ein huchelgais ni yw gweithio gan ddefnyddio 'egwyddorion trefnu cymunedol'. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gwrando, yn ysbrydoli, yn cymell ac yn galluogi pobl i adeiladu eu pŵer ar y cyd i weithredu dros fyd natur yn y llefydd ble maent yn byw. Fe wnaethon ni dreialu’r dull hwn i ddechrau fel rhan o ‘Natur Drws Nesaf’; prosiect dwy flynedd a gyllidwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a oedd yn galluogi pob Ymddiriedolaeth Natur yn y DU i weithio gyda chymunedau penodol i helpu i ddiogelu a hyrwyddo byd natur a bywyd gwyllt. Gallwch ddarganfod mwy am y prosiect arloesol hwn a’r effaith mae’n parhau i’w chael yma.
Ein dyhead ni yw esblygu fel sefydliad drwy ddysgu oddi wrth ein cymunedau ni. Byddwn yn parhau i wella’r ffordd rydyn ni’n diwallu eu hanghenion ac yn eu cefnogi gyda’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, fel ein bod ni i gyd yn gallu teimlo’n fwy abl i ddiogelu’r llefydd rydym ni’n byw ynddyn nhw.
Sut gallaf i gymryd rhan?
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn fudiad cenedlaethol sy’n ceisio ysbrydoli gweithredu dros fyd natur mewn cymunedau ledled y DU. Yn fuan iawn byddwn yn cynnwys dolen ar y dudalen hon i Hwb Cymunedol amlgyfrwng newydd sbon, lle byddwch chi’n dod o hyd i adnoddau i gynnig ysbrydoliaeth, syniadau a chyngor ar gyfer trefnu eich prosiect cymunedol eich hun, o arian a chyllid i weithio gyda phobl a dechrau eich grŵp eich hun. Byddwn hefyd yn defnyddio'r gofod yma ar ein gwefan ni i rannu straeon cymunedol, fel eich bod yn gallu clywed yn uniongyrchol gan y bobl ledled Gogledd Cymru sy'n gweithio i gefnogi bywyd gwyllt.