Cwblhewch yr arolwg yma heddiw!
Croeso i’r Arolwg Natur Mawr! Dyma’r arolwg mwyaf o bobl ac natur tros Gymru, Yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a’r Ymddiriedolaethau Natur ar draws y DU, eisiau clywed eich barn chi am rai o’r cwestiynau mwyaf sy’n ymwneud â byd natur a’n rôl ni wrth ofalu amdano.
🌍 Pa mor aml ydych chi’n mynd allan i fyd natur, os o gwbl?
🌍 Ydi byd natur yn bwysig i chi? Os felly, pa mor bwysig?
🌍 Pa rôl, os o gwbl, ddylai pobl, busnes a’r llywodraeth ei chwarae wrth reoli byd natur?
Hoffech gwblhau yr arolwg yn Saesneg? Cliciwch yma
Lleisiwch eich barn a llenwi’r Arolwg Natur Mawr
Ydych chi rhwng 13 a 17 oed? Mae fersiwn o'r arolwg ar eich cyfer chi yn arbennig. Cliciwch yma i ddweud eich dweud
Cwblhewch yr arolwg eto os ydych chi wedi ei gwblhau o'r blaen. Mae hyn yn ein helpu i weld sut mae barn y cyhoedd yn newid dros amser.
Beth yw pwrpas yr arolwg?
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn cynnal yr arolwg yma i gael gwybod beth mae pobl yn y DU yn ei feddwl mewn gwirionedd am fyd natur a sut dylem ni, fel cymdeithas, ei warchod. Bydd y canlyniadau hefyd yn helpu'r Ymddiriedolaethau Natur i ddwyn y llywodraeth i gyfrif dros ei pholisïau a'i blaenoriaethau amgylcheddol. Er enghraifft oeddech chi’n gwybod bod.
- 84% o gyhoedd y DU wedi cymryd o leiaf un cam gweithredu dros natur a hinsawdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - ydych chi'n un ohonyn nhw?
- 93% o gyhoedd y DU yn credu bod naill ai colli natur, newid hinsawdd, neu'r ddau, yn fygythiadau difrifol i ddynoliaeth - ydych chi'n cytuno?
- Mae llygredd, newid yn yr hinsawdd a threfoli yn cael eu hystyried fel y prif fygythiadau i fyd natur ymhlith y cyhoedd - beth ydych chi'n ei feddwl?
Rydyn ni'n angerddol am rymuso pobl i weithredu dros fyd natur. Lleisiwch eich barn ar y materion pwysig yma drwy gwblhau'r arolwg heddiw!
Raffl Fawr yr Arolwg Natur Mawr
Cwblhewch ein harolwg erbyn 31 Hydref a chael cyfle i ennill tocyn anrheg gwerth £100.
Darllenwch y rheolau cystadleuaeth hyn yn ofalus. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen, deall a chytuno i'r telerau ac amodau hyn.
Telerau ac amodau
- Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth hon cyn y dyddiad cau sef 31 Hydref 2024.
- Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i fod yn gymwys ar gyfer y raffl.
- Ar ôl yr amser a'r dyddiad hwn, ni chaniateir ceisiadau pellach i'r gystadleuaeth.
- Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau nad ydynt yn cael eu derbyn am ba bynnag reswm.
- Nid oes ffi mynediad i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, y llwybr mynediad ar gyfer y gystadleuaeth yw cwblhau'r arolwg a rhoi cyfeiriad e-bost dilys, fel y gallwn gysylltu â'r enillydd.
- Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio'r gystadleuaeth a'r telerau ac amodau hyn heb rybudd, bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau i'r gystadleuaeth cyn gynted â phosibl.
- Mae'r wobr fel a ganlyn: cerdyn rhodd o £100 ar y stryd fawr, y gellir ei ddefnyddio mewn siopao sy'n cymryd rhan, sydd i'w gweld yn Where can I spend Love2shop Gift Cards | View full store list (highstreetvouchers.com). Mae'r wobr fel y nodir ac ni fydd unrhyw arian parod neu ddewisiadau amgen eraill yn cael eu cynnig. Nid yw'r wobr yn drosglwyddadwy ac ni ddylid ei hailwerthu. Mae gwobrau'n amodol ar argaeledd ac rydym yn cadw'r hawl i amnewid unrhyw wobr gydag un arall o werth cyfatebol heb roi rhybudd. Dewisir yr enillwyr ar hap o’r holl geisiadau sy’n cael eu derbyn a'u gwirio gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu drwy e-bost yn fuan ar ôl i'r gystadleuaeth ddod i ben. Nid yw'r gystadleuaeth hon yn agored i unrhyw aelod o staff yr Ymddiriedolaethau Natur.
Lledaenwch y gair
Y gorau po fwyaf! Rhannwch y linc i’r arolwg gyda’ch cysylltwyr ar wefannau cymdeithasol os gwelwch yn dda trwy ddefnyddio’r botymau islaw.